• Swyddog Cymorth Dwyieithog Gwasanaethau Busnes
    £27,307 (band cyflog 1) pro rata
    Bydd y cyflog yn cychwyn ar bwynt isaf y raddfa.
    Caerdydd

Ynglŷn â'r swydd hon

Description

Swyddog Cymorth Dwyieithog Gwasanaethau Busnes 26 awr yr wythnos - Caerdydd

Ynglŷn â'r rôl

Ydych chi'n chwilio am swydd ystyrlon sy'n ffitio'n hyblyg o amgylch eich bywyd? Mae ein hwythnos waith 26 awr ar gyfer y swydd hon yn cynnig cydbwysedd gwych - gan roi amser i chi ar gyfer gwaith, amser ar gyfer datblygu, ac amser ar gyfer popeth arall sy'n bwysig.

Rydyn ni'n chwilio am Swyddog Cymorth Gwasanaethau Busnes Cymraeg ei iaith i ymuno â'n tîm cyfeillgar yng Nghaerdydd ar sail barhaol, rhan amser. Os ydych chi'n mwynhau amrywiaeth, megis helpu pobl eraill, ac eisiau cynorthwyo'r sector cyhoeddus yng Nghymru, hwn allai fod y cam nesaf perffaith".

Am bwy rydyn ni’n chwilio

Nid oes angen i chi fod wedi gwneud popeth ar y rhestr hon – yr hyn sy'n bwysicaf yw eich agwedd a'ch parodrwydd i ddysgu. Byddwch yn ffynnu yn y swydd hon os:

  • Oes gennych brofiad mewn gweinyddu busnes neu gynorthwyo timau prysur, aml-swyddogaethol
  • Ydych yn mwynhau gweithio ar draws gwahanol feysydd a chyfrannu at ystod eang o brosiectau
  • Gallwch gyfathrebu'n hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg
  • Oes gennych ddiddordeb mewn cynaliadwyedd a lleihau carbon
  • Ydych yn dod â dull cadarnhaol, galluog ac yn mwynhau helpu cydweithwyr ar draws y sefydliad

Sut beth yw gweithio mewn Gwasanaethau Busnes

Fel rhan o'n tîm Gwasanaethau Busnes bach, cynorthwyol, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gadw'r sefydliad yn gweithredu’n llyfn. Bydd eich gwaith yn amrywiol ac yn canolbwyntio ar bobl, gan gynnwys:

  • Darparu gwasanaeth cwsmeriaid dwyieithog rhagorol, gan gynnwys trin galwadau Cymraeg a chroesawu ymwelwyr
  • Rheoli archebion teithio, cyflenwadau, trefniadau prynu a negesydd
  • Cynorthwyo systemau gweinyddu ac archebu ystafelloedd cyfarfod
  • Helpu i gyflawni prosiectau gwasanaethau busnes a rhaglenni gweinyddol ehangach

Bydd hefyd cyfle i gymryd rhan mewn ystod o feysydd cymorth sefydliadol, megis:

  • Rheoli cyfleusterau– prosiectau llety, ymholiadau parcio, cydlynu cynnal a chadw
  • Iechyd a diogelwch– hyfforddiant, cyflenwadau a mentrau lles
  • Lleihau carbon a chynaliadwyedd- gweithgareddau monitro, adrodd a gwella amgylcheddol
  • Cymorth caffael – archebion ar-lein, archebion prynu, gwiriadau cydymffurfio, gweinyddu tendrau a chontractau
  • Rheoli cofnodion– archifo, adolygiadau dogfennau, a chymorth gweinyddol cyffredinol

Mae bod yn WYCH wrth wraidd popeth yr ydym yn ei wneud, rydym yn chwilio am rywun sydd ag angerdd am wneud gwahaniaeth i'r sector cyhoeddus trwy eich barn gadarn, ddadansoddol. a sgiliau cyfathrebu rhagorol.

Pwy yw Archwilio Cymru?

Archwilio Cymru yw'r corff archwilio annibynnol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae gennym safle unigryw yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, a dyma’n swydd:

  • Sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda drwy ein harchwiliad blynyddol o gyfrifon sector cyhoeddus.
  • Egluro sut mae arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio a sut mae'n diwallu anghenion pobl trwy ein hastudiaethau Gwerth am Arian.
  • Ysbrydoli a grymuso’r rhai yr ydym yn gweithio gyda nhw i wella'n barhaus trwy rannu mentrau ac arfer gorau.

Gweithio i ni

Mae Archwilio Cymru yn lle deinamig a chyfeillgar i weithio, gyda diwylliant hynod gefnogol. Rydym yn angerddol am weithio gyda'r sector cyhoeddus yng Nghymru a gwneud gwahaniaeth i gymunedau lleol.

Rydym yn Hyblyg - Rydym yn gweithio'n ddoethach - rydym yn ymddiried ynoch chi i wneud y dewis cywir wrth gyflawni'r dasg gan eich cefnogi yn eich amgylchiadau unigol, p’un ai cyfrifoldebau gofalu neu reoli anableddau yw’r rheiny. O dan ein polisi hyblyg, byddwn yn ystyried gweithio gartref un diwrnod yr wythnos yn y swydd hon, nid yw’n ymwneud â chytundeb, ac yn amodol ar anghenion busnes a chyfansoddiad y 26 awr, gan fod angen i ni ddarparu gweithwyr swyddfa dros gyfnod yr wythnos.

Mae gennym Delerau Rhagorol – Rydym yn gofalu am ein pobl ac yn darparu amgylchedd sy'n annog cydbwysedd bywyd a gwaith cadarnhaol trwy ein hwythnos waith 35 awr, a'n gwyliau blynyddol 33 diwrnod y flwyddyn (heblaw am wyliau banc cyhoeddus), gallwch hefyd brynu, gwerthu a rhoi gwyliau yn y 'banc' i alluogi cael gwyliau estynedig.

Rydym yn buddsoddi yn ein Pobl - Rydym o blaid datblygiad personol a phroffesiynol ac yn buddsoddi yn ein pobl i gyflawni eu dyheadau gyrfa er mwyn iddynt fod y gorau y gallant fod. Rydym yn cynnig pecyn hyfforddi hael sy'n cael ei ategu gan ddull cyfunol o ddysgu strwythuredig ac anstrwythuredig. Mae ein cynllun mentora a hyfforddi llwyddiannus i'n trwyddedau LinkedIn Learning yn rhoi cyfle i staff ddysgu ar adegau ac mewn ffyrdd sy'n addas iddynt.

Mae gennym fuddion rhagorol - Ochr yn ochr â'n pecyn cyflog hael, rydym yn cynnig cyfle i bob gweithiwr ymuno â Chynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy'n cael ei ystyried yn un o'r cyfraddau cyfraniadau cyflogwyr gorau. Mae ein buddion staff hefyd yn cynnwys cynllun beicio i'r gwaith, gostyngiadau siopa a'r dewis i gael cerbyd trwy ein cynllun prydles buddiol ymhlith llawer mwy.

Rydym yn falch o fod ag Achrediad - Rydym yn gyflogwr Working Families a Change 100 balch ac wedi ennill achrediad Cyflog Byw.
Rydym yn tyfu gweithlu amrywiol sy'n cynrychioliadol o'r cymunedau yr ydym yn gweithio ynddynt, a’r sgiliau, profiadau a safbwyntiau y maen nhw'n eu cynnig ac yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir. Rydym hefyd yn aelod o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd ac yn gwarantu cyfweld â'r holl ymgeiswyr anabl sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd.

Ein Proses Asesu

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am y rôl hon, gwyddoch y bydd eich cais yn cael ei hidlo i benderfynu a yw'n addas i symud ymlaen i gyfweliad ac asesiad. Bydd y broses hidlo a'r camau cyfweliad ac asesiad dilynol yn adolygu'r meini prawf hyn.

Mwy o wybodaeth

Gallwch ddysgu mwy am y cyfrifoldebau, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen ar gyfer y swydd yn y disgrifiad swydd. Am drafodaeth anffurfiol am y cyfle hwn, cysylltwch â Laurie Davies, Pennaeth Gwasanaethau Busnes ar 029 2032 0500.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23:59 ar 10 Gorffennaf 2026.

Yn dilyn didoli o'ch cais ar-lein, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn asesiad sy'n cynnwys ymarfer ysgrifenedig byr a chyfweliad. Cynhelir yr holl asesiadau a chyfweliadau wyneb yn wyneb yn ein swyddfa yng Nghaerdydd.

Wrth wneud cais ar-lein, cofiwch bwyso'r botwm parhau ar ôl cyflwyno’ch cais – unwaith y byddwch wedi gwneud hyn byddwch yn cael cydnabyddiaeth i gadarnhau bod eich cais wedi'i gyflwyno. Os na fyddwch yn cael cydnabyddiaeth, cysylltwch â'n Tîm Adnoddau Dynol ar unwaith ar 02920 320500 neu drwy AdnoddauDynol.Cyflogres@archwilio.cymru

Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg; ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer, nid ydym yn gallu noddi fisâu gwaith.

Dyddiad Cau

  • 12/07/2026