Dyddiad: Gaeaf 2020-21 Adfywio Trefi Cymru Cefndir 1 Mae'r prosiect hwn yn cael ei gynnal o dan Adran 41 Deddf Archwilio Cyhoeddus Cymru 2004. Mae'r Ddeddf hon yn gosod dyletswydd ar yr Archwilydd Cyffredinol i weithio ar astudiaethau a fydd yn ei helpu i wneud argymhellion ar gyfer gwella economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd llywodraeth leol yng Nghymru. Mae'r prosiect hwn hefyd yn cynorthwyo'r Archwilydd Cyffredinol i gyflawni rhai o'i gyfrifoldebau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, gweithio'n well gyda phobl, cymunedau a'i gilydd. 2 Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a'n hysbysiad preifatrwydd ar gael ar ein gwefan: audit.wales/cy 3 Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y gwaith hwn neu siarad â thîm yr astudiaeth, anfonwch e-bost at astudiaethau.cyngor@archwilio.cymru Pam yr ydym yn cynnal yr adolygiad hwn? 4 Mae canol trefi wedi bod wrth galon cymdeithas Cymru ers amser maith. Waeth o ble yr ydych yn dod a pha mor hen ydych chi, mae gan bob un ohonom atgof sentimental am ymweld â chanol ein trefi lleol: prynu ein record gyntaf neu CD yn Woolworths, prynu casyn pensiliau ar gyfer tymor ysgol newydd neu fynd am goffi llaethog gyda modryb. 5 Ond sut olwg fydd ar y dyfodol? Mae cyfran gynyddol o siopwyr yn prynu ar-lein. Mae llawer o siopwyr yn gwneud eu 'siop fawr' mewn archfarchnadoedd y tu allan i'r dref. Mae nifer fawr o'n siopau ar y stryd fawr yn cau. Mae pobl hefyd yn ffafrio ymweld ag ardaloedd lle mae mwy ar gael na manwerthu yn unig. 6 Mae canol trefi wedi bod yn newid ers degawdau ac mae rhai wedi cadw i fyny â hyn. Ond gallwn ni i gyd feddwl am ganol trefi sydd wedi'u gadael ar eu hôl ac sy'n wynebu heriau sylweddol. Bydd effaith COVID19 yn arwain at newid pellach. 7 Ein nod ar gyfer y gwaith hwn yw ei fod yn rhoi cyfle i lunwyr polisi, busnesau a'r cyhoedd ailffocysu ar adfywio: nid yn unig cyflwr ffisegol ardal ond hefyd ar les cymdeithasol, amgylcheddol, iechyd ac economaidd cymunedau sy'n byw yn nhrefi Cymru, yn eu defnyddio ac yn ymweld â nhw. Beth yw ffocws y gwaith? 8 Bydd yr adolygiad yn ceisio ateb y cwestiwn: A yw awdurdodau lleol a'u partneriaid yn adfywio canol trefi Cymru ac yn creu lleoedd cynaliadwy a chydnerth? Sut byddwn yn gwneud y gwaith? 9 Bydd ein dulliau ar gyfer y gwaith hwn yn cynnwys: * adolygiad o raglenni adfywio canol trefi Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn y gorffennol; * cyfweliadau a thrafodaethau gyda rhanddeiliaid allweddol, er enghraifft, Siambrau Masnach lleol, Cynghorau Tref a Chymuned, y Ffederasiwn Busnesau Bach, Llywodraeth Cymru, y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol, Sefydliad Bevan, Cytundebau Dinas a Thwf, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru a chyrff cynrychioliadol allweddol eraill; * dadansoddi setiau data allweddol a ffynonellau gwybodaeth allweddol eraill gan gynnwys y Mynegai Trefi Ffyniannus, y Ganolfan Trefi, Arolwg Cenedlaethol Cymru, setiau data MALlC, ONS a ffynonellau eraill i helpu i ddeall y 190 o drefi yng Nghymru; * cyfweliadau dros y ffôn ag awdurdodau lleol; * arolwg dinasyddion; ac * arolygon o gynghorwyr o Awdurdodau Unedol a Chynghorau Tref a Chymuned i ddeall 'USP' eu trefi a'u cymunedau a pham mae rhai trefi'n ffynnu, ac eraill ddim. Sut mae Covid-19 wedi newid ein dull archwilio? 10 Fel pawb arall, mae Archwilio Cymru wedi bod yn monitro'n agos y sefyllfa yn sgil feirws COVID-19. Er bod yn rhaid i ni sicrhau ein bod yn cyflawni ein cyfrifoldebau statudol, blaenoriaeth yr Archwilydd Cyffredinol fu sicrhau iechyd, diogelwch a lles staff Archwilio Cymru a staff ein partneriaid ledled Cymru ar yr adeg hynod heriol hon. Byddwn yn ceisio sicrhau, lle bynnag y bo modd, nad yw ein gwaith archwilio yn cael effaith andwyol ar y corff cyhoeddus a'i staff ar adeg pan fo gwasanaethau cyhoeddus dan bwysau ac yn canolbwyntio ar faterion pwysicach. Byddwn yn parhau i fod mor gefnogol a hyblyg â phosibl wrth gyflawni ein gwaith. Byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid a chyrff cyhoeddus i gytuno sut byddwn yn cynnal ein cyfweliadau a'n gwaith maes. Er ein bod yn ymwybodol na ddylai ein harchwiliad amharu ar waith pwysig cyrff cyhoeddus ar yr adeg dyngedfennol hon, credwn hefyd y gall ychwanegu gwerth a mewnwelediad i gefnogi sefydliadau i fod yn fwy cydnerth. Pryd fyddwn ni'n gwneud y gwaith hwn? 11 Bydd y rhan fwyaf o'r gwaith hwn yn digwydd rhwng mis Medi 2020 a mis Mawrth 2021. Byddwn yn anelu at gyhoeddi'r adroddiad yn ystod haf 2021. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'n canfyddiadau? 12 Caiff canfyddiadau'r adolygiad hwn eu nodi mewn adroddiad a fydd yn cynnwys cynigion ar gyfer gwella a chymhariaeth a sylwebaeth ar ddulliau adfywio canol trefi ledled Cymru. Byddwn yn tynnu sylw at arfer nodedig ac yn datblygu deunyddiau cymorth a fydd yn amlygu sut beth fyddai 'da' a beth sy'n bosibl. Byddwn yn cyhoeddi data'n agored lle y gallai helpu i gefnogi gwelliant. Sut gallwch gymryd rhan? 13 Os hoffech gyfrannu at ein gwaith, cadwch lygad am ein harolygon, sy'n cynnwys: a. Arolwg dinasyddion a busnes; b. Arolwg Cynghorwr; ac c. Arolwg swyddogion adfywio. 14 Cliciwch ar y ddolen yma i fynd at ein harolwg: https://wh1.snapsurveys.com/s.asp?k=160399556509. Bydd yr arolygon ar agor tan 31 Ionawr 2021.