Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Roedd llawer o wasanaethau yn cael eu hymestyn cyn pandemig COVID-19, ac ni fydd y blynyddoedd i ddod yn cynnig fawr o seibiant i arian cyhoeddus

15 Medi 2021
  • Ar ôl degawd o gyllidebau wedi cael eu gwasgu a mwy a mwy o alw amdano, mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio i fynd i'r afael â thair argyfwng fyd-eang.

    Mae ein hadroddiad diweddaraf 'Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus' yn nodi rhai meysydd pwysig ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

    Mae'r adroddiad wedi'i rannu'n dair rhan – yr hyn a ddigwyddodd gyda gwasanaethau cyhoeddus rhwng 2010 a 2020, sut maent wedi ymateb i COVID-19, a'r heriau a'r cyfleoedd mwyaf, yn ein barn ni, i wasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol. Yn ogystal ag wynebu'r pandemig ac ansicrwydd economaidd, rhaid i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ymateb i argyfwng byd-eang o newid hinsawdd. 

    Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dyrannu £5.1 biliwn i ymateb i COVID-19 yn 2020-21 ac mae ganddo o leiaf £2.6 biliwn ychwanegol ar gael yn 2021-22. Mae cyllid cyhoeddus yn ansicr ond mae'n debygol o fod yn dynn am beth amser; ac ar gyfer gwasanaethau sydd yn barod wedi'u hymestyn, mae'r pandemig wedi creu heriau newydd. Er enghraifft, amcangyfrifwyd y bydd angen rhwng £152 miliwn a £292 miliwn ar y GIG bob blwyddyn am 4 blynedd i fynd i'r afael ag ôl-groniad y rhestrau aros.

    Er gwaethaf hyn, mae ein hadroddiad yn pwysleisio bod cyfle i ddysgu o agweddau o’r ymateb i’r pandemig i newid y ffordd y caiff gwasanaethau ei ddarparu er gwell. Mae'n tynnu sylw at bum maes o drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus:

    • Systemau a diwylliant i gefnogi dulliau newydd o ddarparu gwasanaethau.
    • Cydweithio pwrpasol. 
    • Cynllunio ariannol a gwasanaethau hirdymor sy'n cefnogi dull trwyadl a realistig o atal. 
    • Harneisio technoleg ddigidol i wneud gwasanaethau'n fwy hygyrch. 
    • Defnyddio data a gwybodaeth i ddysgu a gwella ar draws y system gwasanaeth cyhoeddus gyfan. 
    ,
    Mae'r adroddiad hwn yn adrodd hanes am bwysau a darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus dros y degawd diwethaf ac yn nodi rhai o'r meysydd pwysicaf lle byddaf yn disgwyl gweld cynnydd yn y blynyddoedd i ddod. Mae'r pandemig wedi cael effaith ddinistriol ar bobl a chymunedau, ac eto mae hefyd wedi dangos cryfderau mawr yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Nawr, yn fwy nag erioed, mae'n hanfodol bod gwasanaethau cyhoeddus yn gwasgu'r gwerth mwyaf allan o'r adnoddau sydd ar gael i wella lles unigolion a chymunedau. Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2021

    View more