Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Profodd pandemig Covid-19 werth llywodraeth leol o ran amddiffyn pobl a chymunedau.

22 Ebrill 2021
  • Roedd pwysau ariannol wedi arwain at gynghorau'n lleihau gwariant a thorri gwasanaethau, ond mae'r pandemig wedi dangos bod gwasanaethau llywodraeth leol yn hanfodol i gadw pobl yn ddiogel ac yn iach.

    Mae degawd o lymder wedi golygu bod cynghorau wedi gorfod gwneud toriadau i wasanaethau cyhoeddus pwysig. Mae gan bob cyngor broses ar waith i benderfynu ble i leihau gwariant, fodd bynnag, nid yw'r data a ddefnyddir i lywio'r penderfyniadau hyn bob amser yn gynhwysfawr.

    Mae pandemig COVID-19 yn cynnig cyfle i arweinwyr dinesig ailbrisio swyddogaeth a gwerth llywodraeth leol.

    Mae cynghorau'n darparu gwasanaethau sy'n hanfodol i gadw dinasyddion yn ddiogel. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys gwasanaethau addysg, diogelu pobl sy'n agored i niwed, gofal cymdeithasol, casglu gwastraff, cynllunio a gwasanaethau tai. Mae cynghorau hefyd yn darparu gwasanaethau yn ôl eu disgresiwn. Mae cynghorau yng Nghymru yn gyfrifol am 1,450 o weithgareddau a gwasanaethau ac yn 2019-20 gwariwyd tua £8.3 biliwn ar wasanaethau, sydd i gyd yn gwneud gwahaniaeth mawr ac yn helpu pobl a chymunedau lleol.

    Nid yw'n hawdd penderfynu ble i wneud toriadau i wasanaethau cyhoeddus. Yn aml, mae'r penderfyniadau hyn yn dechrau gyda ffocws o benderfynu a yw gwasanaeth yn cael ei ddiffinio fel un dewisol neu statudol, ond ni ellir diffinio llawer o wasanaethau'r cyngor fel hyn. Yn gyffredinol, wrth bennu cyllidebau, mae cynghorau wedi ceisio diogelu gwasanaethau sy'n helpu'r rhai mwyaf agored i niwed. Gwasanaethau sydd wedi wynebu'r gostyngiadau mwyaf yn bennaf yw gwasanaethau hamdden a diwylliannol 'talu wrth i chi ei ddefnyddio' neu wasanaethau rheoleiddio – er gwaethaf helpu i'n hamddiffyn a gwella ein lles.

    Mae'r rhan fwyaf o gynghorau wedi rhoi prosesau ar waith i bennu toriadau drwy adolygu gwasanaethau a nodi opsiynau i'w cyflawni yn y dyfodol, er nad yw'r data mor gynhwysfawr ag y gallai fod. Mae cynghorau'n colli'r manteision o gynnwys dinasyddion sy'n barod i gymryd rhan mewn helpu i rannu a rhedeg gwasanaethau.

    Pan ddaw'n fater o flaenoriaethu'r modd y darperir gwasanaethau, rhoddir llai o ystyriaeth i faterion cydraddoldeb ehangach megis anghenion y rhai â nodweddion gwarchodedig a'r Gymraeg, yn ogystal â gwasanaethau a all helpu i reoli, lleihau a/neu atal y galw. Mae mwy y gall cynghorau ei wneud o ran sut y maent yn defnyddio data'n fwy effeithiol wrth benderfynu pa wasanaethau i'w blaenoriaethu a'u diogelu wrth bennu cyllidebau. Mae hyn yn bwysig gan bod y galw am rai gwasanaethau hanfodol yn parhau i gynyddu ac nid yw cynghorau'n hyderus y gallant barhau i ddarparu'r gwasanaethau hyn i gyd yn y dyfodol agos.

    Mae'r pandemig wedi ei gwneud yn ofynnol i bawb ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio ac wedi cael llywodraeth leol i ganfod ffyrdd newydd, ac sy'n aml yn arloesol, o helpu busnesau a chadw pobl yn ddiogel. Ond mae cynghorau'n wynebu her wirioneddol o barhau i fod yn berthnasol i'w holl ddinasyddion. Yn y dyfodol, mae gan lywodraeth leol gyfle i newid yr hyn a wnânt a sut y maent yn ei wneud, ac mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn cynnig cyfleoedd i adnewyddu ac ailedrych ar swyddogaeth a gwerth llywodraeth leol.

    ,
    Mae ein hymchwil wedi amlygu'r rhan hanfodol y mae llywodraeth leol yn ei chwarae wrth amddiffyn pobl a chymunedau. Mae'r pandemig wedi gweld llywodraeth leol yn camu i’r adwy a darparu gwasanaethau hanfodol i'w cymunedau. Fodd bynnag, mae lleihau ehangder y gwasanaethau a ddarperir yn golygu bod angen i gynghorau lleol sicrhau eu bod yn parhau i fod yn berthnasol i'w holl ddinasyddion. Mae'r pandemig wedi rhoi cyfle iddynt ailedrych ar eu swyddogaeth a dod o hyd i atebion newydd, arloesol i ddiogelu'r gwasanaethau hanfodol y maent yn eu darparu. Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru
    ,

    Nodiadau i Olygyddion:

    • Mae'r cyhoeddiad hwn yn edrych ar sut mae cynghorau'n diffinio eu gwasanaethau ac yn ceisio diogelu gwasanaethau hanfodol wrth ddelio â gostyngiadau mewn cyllid. Canolbwyntiwyd ar sut mae cynghorau'n diffinio gwasanaethau, y systemau a'r prosesau y maent wedi'u defnyddio i adolygu gwasanaethau a pha mor gadarn a chynhwysfawr yw'r rhain.
    • Mae ffeithiau allweddol i'w gweld ar dudalen 7.
    • Mae methodoleg astudio i'w gweld ar dudalen 35.
    • Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol annibynnol y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae'n gyfrifol am yr archwiliad blynyddol o'r rhan fwyaf o'r arian cyhoeddus sy'n cael ei wario yng Nghymru, gan gynnwys yr £21 biliwn o arian y pleidleisir arno'n flynyddol gan Senedd Cymru. Caiff elfennau o'r arian hwn eu trosglwyddo gan Lywodraeth Cymru i'r GIG yng Nghymru (dros £8 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).
    • Mae annibyniaeth archwilio'r Archwilydd Cyffredinol yn hollbwysig. Fe'i penodir gan y Frenhines, ac nid yw ei waith archwilio yn ddarostyngedig i gyfarwyddyd na rheolaeth gan Senedd Cymru na'r llywodraeth. 
    • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gorff corfforaethol sy'n cynnwys Bwrdd statudol o naw aelod sy'n cyflogi staff ac sy'n darparu adnoddau eraill i'r Archwilydd Cyffredinol, sydd hefyd yn Brif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu'r Bwrdd. Mae'r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori'r Archwilydd Cyffredinol wrth iddo arfer ei swyddogaethau.
    • Archwilio Cymru yw enw ymbarél Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru. Mae Archwilio Cymru yn nod masnach cofrestredig, ond nid yw'n endid cyfreithiol ynddo'i hun.
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Yn ôl eich doethineb - Gwasanaethau Dewisol Llywodraeth Leol

    View more