Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Fe ymatebodd Llywodraeth Cymru a Chydwasanaethau’r GIG yn dda dan amgylchiadau anodd i gaffael Cyfarpar Diogelu Personol

14 Ebrill 2021
  • Trwy gydweithio, fe wnaeth Cydwasanaethau’r GIG a gwasanaethau cyhoeddus eraill oresgyn heriau cynnar i ddarparu’r Cyfarpar Diogelu Personol a oedd yn ofynnol ar gyfer cyrff iechyd a gofal heb redeg allan o stoc ar lefel genedlaethol.

    Fe wnaeth Llywodraeth Cymru a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (Y Cydwasanaethau) gaffael a chyflenwi Cyfarpar Diogelu Personol ar gyfer staff rheng-flaen dan amgylchiadau anodd iawn. Fe sefydlon nhw drefniadau da i reoli risgiau a helpodd i osgoi rhai o’r problemau yr adroddwyd arnynt yn Lloegr. Fodd bynnag, ni chyhoeddodd y Cydwasanaethau hysbysiadau dyfarnu contract ar gyfer eu holl gontractau Cyfarpar Diogelu Personol o fewn 30 diwrnod i’w gosod fel a oedd yn ofynnol.

    Roedd yr her a oedd yn wynebu’r GIG a chyrff gofal cymdeithasol ar ddechrau’r pandemig yn fawr. Roedd y pentwr a ddatblygwyd ar gyfer pandemig ffliw’n annigonol ar gyfer coronafeirws. Roedd cadwyni cyflenwi byd-eang yn rhanedig wrth i wledydd gystadlu am gyflenwadau prin ac i rai osod rheolaethau allforio.

    Cyn y pandemig, byddai GIG Cymru’n nodweddiadol yn gwario oddeutu £8 miliwn yn flynyddol ar Gyfarpar Diogelu Personol. Yn ystod 2020-21 mae’r cyfanswm y disgwylir iddo gael ei wario ar Gyfarpar Diogelu Personol ar gyfer Cymru dros £300 miliwn. Er bod hyn yn gynnydd mawr, rydym yn amcangyfrif bod Llywodraeth Cymru wedi cael £880 miliwn trwy fformiwla Barnett o ganlyniad i wariant ar Gyfarpar Diogelu Personol yn Lloegr.

    Fe weithiodd gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru mewn ffordd fwyfwy cydweithredol i ddeall pa Gyfarpar Diogelu Personol oedd ei angen a bu ystod o gyrff yn rhan o gaffael Cyfarpar Diogelu Personol yn fyd-eang. Mae’r Cydwasanaethau wedi ysgwyddo rôl estynedig o ran cyflenwi Cyfarpar Diogelu Personol i’r GIG ehangach, gan gynnwys contractwyr annibynnol ym maes gofal sylfaenol (meddygon teulu, deintyddion, fferyllfeydd ac optometryddion) a’r sector gofal cymdeithasol yn ei gyfanrwydd, gan gynnwys darparwyr preifat.

    Roedd y Cydwasanaethau wedi dyroddi 630 miliwn o eitemau o Gyfarpar Diogelu Personol o ran y sefyllfa ar 8 Chwefror 2021. Mae data’r Cydwasanaethau’n dangos, yn genedlaethol, na ddaeth stociau i ben. Fe wnaeth stociau o rai eitemau – fisorau, rhai masgiau wyneb a gynau llawfeddygol – ostwng islaw dau ddiwrnod ar adegau ym mis Ebrill 2020. Ar adegau, tynnodd Cymru ar gydgymorth gan wledydd eraill ond yn y pen draw rhoddodd nifer sylweddol fwy o eitemau nag a gafodd. Mae’r system iechyd a gofal bellach mewn sefyllfa well o lawer, gyda stociau wrth gefn o’r rhan fwyaf o eitemau ac archebion wedi’u cyflwyno ar gyfer eitemau allweddol lle mae’r stociau islaw’r targed presennol o 24 wythnos o gyflenwad.

    Mae arolygon staff gan y Coleg Nyrsio Brenhinol a Chymdeithas Feddygol Prydain yn awgrymu bod hyder yn y cyflenwad o Gyfarpar Diogelu Personol wedi tyfu’n fuan ar ôl dechrau’r pandemig, a bod rhai pryderon o hyd. Er na allwn fod yn siŵr pa mor gynrychiolaidd yw’r farn hon, mae rhai aelodau o staff rheng flaen wedi dweud iddynt brofi prinder Cyfarpar Diogelu Personol. Mewn rhai achosion, mae pryderon staff yn ymwneud â’r ffaith bod arnynt eisiau lefel uwch o Gyfarpar Diogelu Personol nag sy’n ofynnol yn ôl y canllawiau.

    Fe wnaeth y Cydwasanaethau daro cydbwysedd rhwng yr angen taer i gael cyflenwadau Cyfarpar Diogelu Personol ar gyfer staff rheng flaen a’r angen i reoli risgiau sylweddol i lywodraethu ariannol. Roedd y risgiau hyn yn cynnwys ymdrin â chyflenwyr newydd, gorfod gwneud taliadau mawr ymlaen llaw a symiau sylweddol o offer twyllodrus ac o ansawdd gwael yn cael eu cynnig. Bu grŵp llywodraethu ariannol arbenigol yn adolygu contractau â mwy o risg. Yn wahanol i’r sefyllfa yn Lloegr, nid yw ein hadroddiad yn canfod unrhyw dystiolaeth o roi blaenoriaeth i gyflenwyr posibl gan ddibynnu pwy a’u hatgyfeiriodd.

    Nid oedd gwiriadau diwydrwydd dyladwy wastad yn gallu cael eu cyflawni i’r lefel y byddent wedi cael eu cyflawni y tu allan i bandemig oherwydd pwysau amser. Fodd bynnag, ar gyfer pob contract a adolygwyd gennym ni, mae tystiolaeth yn dangos bod gwiriadau diwydrwydd dyladwy allweddol wedi cael eu cyflawni.

    Ni wnaeth y Cydwasanaethau ateb y gofynion dan reolau caffael brys i gyhoeddi eu hysbysiadau dyfarnu contract o fewn 30 diwrnod. Dywedodd y Cydwasanaethau wrthym fod angen i’w staff roi blaenoriaeth i gaffael Cyfarpar Diogelu Personol a bod rhesymau gweinyddol eraill dros yr oedi.

    Mae’r argymhellion yn yr adroddiad yn canolbwyntio ar y canlynol:

    • Parodrwydd ar gyfer clefydau pandemig yn y dyfodol
    • Datblygu strategaeth gaffael ar gyfer Cyfarpar Diogelu Personol – gan gynnwys maint a natur y pentwr, cynlluniau ar gyfer y farchnad Cyfarpar Diogelu Personol gartref, ac ystyried ffactorau ehangach megis datblygu cynaliadwy a chaethwasiaeth fodern
    • Tryloywder mewn perthynas â dyfarnu contractau ac argaeledd stoc Cyfarpar Diogelu Personol
    ,
    Mae caffael a chyflenwi Cyfarpar Diogelu Personol yn ystod y cyfnod hwn wedi bod ymhell o fod yn fusnes fel arfer. Mae’r heriau, y risgiau a’r pwysau wedi bod yn uwch a bu angen ymateb unigol a chyfunol enfawr. Mae Cydwasanaethau’r GIG, gan weithio gydag eraill, wedi ymateb yn dda i ddatblygu a chynnal y stoc genedlaethol a chyflenwi cyrff iechyd a gofal. Fodd bynnag, er gwaethaf pwysau a oedd mewn cystadleuaeth â’i gilydd, dylai’r Cydwasanaethau fod wedi symud yn gyflymach i gyhoeddi manylion y contractau a osodwyd ganddynt. Er bod y darlun cyffredinol a gaiff ei gyfleu gan fy adroddiad yn weddol gadarnhaol o ystyried yr amgylchiadau anodd, ni allwn anwybyddu’r farn a fynegwyd gan rai o’r bobl ar y rheng flaen ynglŷn â’u profiadau hwy eu hunain. Mae gwersi i Lywodraeth Cymru a’r Cydwasanaethau eu dysgu hefyd – ynglŷn â pharatoi ar gyfer pandemig yn y dyfodol yn ogystal â mynd i’r afael â rhai heriau cyfredol. Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru
    ,

    Nodiadau i Olygyddion:

    • Mae’r adroddiad hwn yn bwrw golwg ar gaffael a chyflenwi Cyfarpar Diogelu Personol yn ystod pandemig COVID-19 ac yn canolbwyntio ar yr ymdrechion cenedlaethol i gyflenwi cyrff iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn cymharu rhai o’n canfyddiadau â’r rhai yr adroddwyd arnynt yn flaenorol gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn Lloegr
    • Mae’r ymdrechion i gaffael a chyflenwi Cyfarpar Diogelu Personol wedi cael eu harwain gan Lywodraeth Cymru, gan weithio gyda phartneriaid ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (Y Cydwasanaethau) a llywodraeth leol.
    • Nid yw ein hadroddiad yn adolygu’r trefniadau i gaffael Cyfarpar Diogelu Personol yn lleol gan y GIG a chyrff llywodraeth leol, na’r trefniadau logistaidd a oedd yn eu lle’n lleol i ddosbarthu Cyfarpar Diogelu Personol. Fodd bynnag, rydym wedi adlewyrchu tystiolaeth a gasglwyd gan gyrff proffesiynol am farn staff rheng flaen.
    • Ceir manylion ein ymagwedd a’n dull archwilio ar dudalen 63.
    • Mae’r ffeithiau allweddol a rolau a chyfrifoldebau i’w cael ar dudalen 8-9.
    • Mae’r argymhellion i’w cael ar dudalennau 10.
    • Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol annibynnol y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae’n gyfrifol am fynd ati’n flynyddol i archwilio’r mwyafrif o’r arian cyhoeddus a gaiff ei wario yng Nghymru, gan gynnwys yr £21 biliwn o arian y pleidleisir arno’n flynyddol gan Senedd Cymru. Caiff elfennau o’r cyllid hwn eu trosglwyddo gan Lywodraeth Cymru i’r GIG yng Nghymru (dros £8 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).
    • Mae annibyniaeth archwilio’r Archwilydd Cyffredinol o’r pwys mwyaf. Fe’i penodir gan y Frenhines, ac nid yw ei waith archwilio’n cael ei gyfarwyddo na’i reoli gan Senedd Cymru na’r Llywodraeth. 
    • Corff corfforaethol sy’n cynnwys Bwrdd statudol ac iddo naw aelod yw Swyddfa Archwilio Cymru sy’n cyflogi staff ac yn darparu adnoddau eraill ar gyfer yr Archwilydd Cyffredinol, sydd hefyd yn gweithredu fel Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu’r Bwrdd. Mae’r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori’r Archwilydd Cyffredinol, o ran arfer ei swyddogaethau.
    • Archwilio Cymru yw’r enw ymbarél ar gyfer Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru. Mae Archwilio Cymru yn nod masnach cofrestredig, ond nid yw’n endid cyfreithiol ynddo’i hun.

     

    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Caffael a Chyflenwi Cyfarpar Diogelu Personol ar gyfer Pandemig COVID-19

    View more