Rhywfaint o gynnydd cadarnhaol ond yr archwilydd cyffredinol yn methu â datgan am y bedwaredd flwyddyn yn olynol bod cyfrifon pedwar bwrdd iechyd yn foddhaol

dydd Gwener, Gorffennaf 3, 2020 - 9:31yb

Unwaith eto, methodd pedwar o’r saith bwrdd iechyd yng Nghymru â chyflawni eu dyletswydd ariannol i beidio â gorwario dros gyfnod o dair blynedd, yn ôl eu cyfrifon ar gyfer 2019-20 a gyhoeddwyd heddiw.    

Ar draws GIG Cymru, disgynnodd cyfanswm y diffyg o fewn y flwyddyn o £96 miliwn yn 2018-19 i £89 miliwn. Disgynnodd y gorwariant cronnus dros gyfnod o dair blynedd ar draws y GIG o £411 miliwn i £352 miliwn.

Mae’r ffigurau hyn i gyd wedi’u nodi mewn offeryn data newydd [agorir mewn ffenestr newydd] y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn ei gyhoeddi heddiw.

Roedd gwariant refeniw Llywodraeth Cymru ar iechyd £650 miliwn yn fwy ar gyfer 2019-20. O ystyried chwyddiant, roedd hynny’n gyfwerth â chynnydd o 6.8% mewn termau real. Fodd bynnag, roedd y cyllid ychwanegol hwnnw’n cynnwys sawl dyraniad unigol ar gyfer gwasanaethau penodol, yn hytrach na chynnydd cyffredinol ar gyfer rhedeg y GIG o ddydd i ddydd.  


Roedd y dyraniadau dan sylw’n cynnwys £170 miliwn i dalu costau pensiwn ychwanegol, £95 miliwn ar gyfer dyfarniadau cyflog a £52 miliwn i hybu perfformiad gwell, yn enwedig yng nghyswllt amserau aros am driniaeth ddewisol. At hynny, dyrannodd Llywodraeth Cymru £192 miliwn ychwanegol i helpu i integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol a thrawsnewid gwasanaethau’n ehangach, a bydd rhywfaint o’r cyllid hwnnw’n cael ei rannu â llywodraeth leol a phartneriaid eraill. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i’r buddsoddiad hwnnw esgor ar welliannau tymor hwy i gost-effeithiolrwydd gwasanaethau iechyd a gofal.

Adroddodd cyrff y GIG eu bod, ar y cyd, wedi sicrhau gwerth £130 miliwn o arbedion yn 2019-20. Roedd hynny oddeutu £18 miliwn yn llai na’r arbedion a sicrhawyd yn 2018-19. Disgynnodd swm yr arbedion rheolaidd, a fydd yn parhau yn ystod y blynyddoedd a ddaw, yn sylweddol: o £125 miliwn yn 2018-19 i £87 miliwn yn 2019-20. Mae hynny’n dangos bod y GIG yn ei chael yn anodd dod o hyd i arbedion cynaliadwy drwy wneud newidiadau gweithredol hirdymor.

Er i’r pandemig COVID-19 ddechrau ym mis Chwefror, roedd effeithiau’r pandemig yn syth ar sefyllfa ariannol GIG Cymru yn gyfyngedig. Yn gyffredinol, roedd gwariant cyrff y GIG yn ystod chwarter olaf 2019-20 yn cyd-fynd i raddau helaeth â’u rhagolygon cyn y pandemig. Fodd bynnag, rydym yn disgwyl y bydd effaith y gwariant ychwanegol sylweddol oherwydd COVID-19 yn fawr yn ystod blwyddyn ariannol 2020-21.   

Yn ogystal â’r ffaith iddynt fethu â chyflawni eu dyletswydd ariannol i beidio â gorwario dros gyfnod o dair blynedd, methodd tri o’r cyrff – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (sef Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg gynt) – â chyflawni eu dyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod ganddynt gynllun tair blynedd cymeradwy. O ganlyniad, mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi gorfod amodi ei farn archwilio am gyfrifon pob un o’r tri chorff hynny.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi gwneud cynnydd cadarnhaol. Llwyddodd i beidio â gorwario ar sail ei gyllideb flynyddol am y tro cyntaf ers 2015-16. Erbyn hyn hefyd, mae ganddo gynllun tair blynedd cymeradwy hyd at 2021-22. Er hynny roedd y ffaith nad oedd ei gyllidebau’n gytbwys, fel a oedd yn ofynnol, dros gyfnod o dair blynedd hyd at 31 Mawrth 2020 yn golygu bod yr Archwilydd Cyffredinol wedi gorfod amodi ei farn archwilio am gyfrifon 2019-20. 

Llwyddodd y tri bwrdd iechyd arall, tair ymddiriedolaeth GIG ac un awdurdod iechyd arbennig i gyflawni eu dyletswydd i beidio â gorwario, ac roedd ganddynt gynlluniau cymeradwy. 

Llwyddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gynnal eu sefyllfa ariannol i raddau helaeth o gymharu â’r llynedd. Gwnaethant gofnodi diffygion tebyg o fewn y flwyddyn ond gwnaethant fethu â chyrraedd y ‘cyfansymiau rheoli’ ar gyfer lleihau diffyg, a bennwyd ar eu cyfer gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, gwaethygodd sefyllfa ariannol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Ar ôl bwriadu peidio â gorwario, cofnododd y bwrdd iechyd ddiffyg o £16.3 miliwn o fewn y flwyddyn. 

Meddai’r Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton, heddiw:
Rhaid croesawu unrhyw welliant i gyflwr ariannol cyffredinol GIG Cymru, ond rwy’n pryderu am y ffaith bod sawl bwrdd iechyd yn dal i gofnodi diffygion blynyddol er gwaethaf ambell gynnydd sylweddol yn y cyllid a gânt. 

Wrth edrych i’r dyfodol, mae’n amlwg bod GIG Cymru yn wynebu her enfawr wrth geisio gwella ei berfformiad ariannol a mynd i’r afael ar yr un pryd ag effeithiau eithriadol y pandemig COVID-19. Byddaf yn monitro ei gynnydd yn ofalus drwy gydol 2020-21 ac yn cyhoeddi diweddariadau fel y bo’n briodol.
 

Nodiadau i olygyddion:

 

  • Yn ei adroddiadau archwilio ynghylch cyrff GIG Cymru, tynnodd yr Archwilydd Cyffredinol sylw at effaith Cyfarwyddyd Gweinidogol mis Rhagfyr 2019 [yn agor mewn ffenestr newydd] ar ariannu rhwymedigaethau treth pensiwn ar gyfer clinigwyr y GIG, ac mae pob un o gyrff perthnasol y GIG wedi datgan y gallai fod ganddynt rwymedigaethau o’r fath yn y dyfodol.
  • Roedd yn ofynnol i’r Archwilydd Cyffredinol gyfyngu ar rychwant ei farn archwilio am gyfrifon Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro oherwydd bod y cyfyngiadau symud yn golygu nad oedd yn gallu cael tystiolaeth archwilio am y modd y cafodd stoc y Bwrdd Iechyd Prifysgol ei phrisio ar 31 Mawrth 2020.
  • Yn ei adroddiad archwilio ynghylch Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, tynnodd yr Archwilydd Cyffredinol sylw hefyd at ansicrwydd o bwys ynghylch y modd y cafodd asedau sefydlog a adeiladwyd yn ddiweddar, ac y dechreuwyd eu defnyddio yn ystod 2019-20, eu prisio. Yn unol â’r canllawiau penodol ynghylch COVID-19, a gyhoeddwyd gan ei sefydliad proffesiynol, roedd prisiwr y Bwrdd Iechyd Prifysgol wedi cofnodi cafeat am ei farn broffesiynol am rai asedau o ran tir ac adeiladau nad oedd wedi medru eu harchwilio ar 31 Mawrth 2020 (sef dyddiad ei adroddiad prisio) oherwydd y cyfyngiadau symud ac nad oedd unrhyw gymaryddion addas ar gael ar eu cyfer yn y farchnad. 
  • Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol annibynnol y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae’n gyfrifol am archwilio’n flynyddol y rhan fwyaf o’r arian cyhoeddus a gaiff ei wario yng Nghymru, gan gynnwys y cronfeydd gwerth £15 biliwn y pleidleisir yn eu cylch yn flynyddol gan Senedd Cymru. Caiff elfennau o’r cyllid hwnnw eu trosglwyddo gan Lywodraeth Cymru i’r GIG yng Nghymru (dros £7 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).
  • Mae annibyniaeth yr Archwilydd Cyffredinol wrth archwilio yn hollbwysig. Caiff ei benodi gan y Frenhines, ac nid yw ei waith archwilio’n rhwym wrth gyfarwyddyd na rheolaeth gan Senedd Cymru nac unrhyw lywodraeth.
  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gorff corfforaethol sy’n cynnwys Bwrdd statudol a chanddo naw aelod. Mae’n cyflogi staff ac yn rhoi adnoddau eraill i’r Archwilydd Cyffredinol sydd hefyd yn Brif Weithredwr ac yn Swyddog Cyfrifyddu’r Bwrdd. Mae’r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori’r Archwilydd Cyffredinol ynghylch y modd y mae’n cyflawni ei swyddogaethau.
  • Archwilio Cymru yw’r enw ymbarél ar gyfer Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru. Mae Archwilio Cymru yn nod masnach cofrestredig ond nid yw’n endid cyfreithiol yn ei rinwedd ei hun