Patrymau gwariant cyhoeddus ers datganoli ‘yn ddiddorol ac, o bosibl, yn annisgwyl’

27 Medi 2019 - 12:53yp

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru’n bwrw golwg dros y ffordd y mae gwariant cyhoeddus wedi newid ers datganoli o’i gymharu â rhannau eraill o’r DU

Yn ystod degawd cyntaf datganoli, cynyddodd cyfanswm y gwariant cyhoeddus y pen yng Nghymru bron i 4% y flwyddyn mewn termau real. Yn sgil y cyni a gafwyd yn y sector cyhoeddus ar ôl hynny, gostyngodd y gwariant yn raddol. Pe bai patrwm y deng mlynedd gyntaf wedi parhau, byddai'r gwariant cyhoeddus y pen wedi bod oddeutu 40% yn uwch yn 2017-18 nag yr oedd. Cyflwynir yr holl ffigurau hyn mewn adroddiad ac offeryn data newydd a gyhoeddir heddiw.

Yn gyffredinol, mae’r gwariant cyhoeddus y pen yng Nghymru wedi bod yn gyson uwch na Lloegr ond yn is na’r Alban a Gogledd Iwerddon drwy gydol y cyfnod o ddatganoli. Yn 2017-18, £10,587 oedd y gwariant y pen yng Nghymru o’i gymharu ag £11,081 yn yr Alban, £11,394 yng Ngogledd Iwerddon a £9,247 yn Lloegr. Mae’r ffigurau hyn yn cynnwys gwariant wedi’i ddatganoli a gwariant heb ei ddatganoli.

Ceir rhai amrywiadau sy'n ddiddorol ac, o bosibl, yn annisgwyl o ran meysydd polisi unigol, er enghraifft:

  • Ym maes iechyd, tan yn ddiweddar iawn, roedd y gwariant y pen yng Nghymru’n agosáu at y lefel is a welwyd yn Lloegr, a hynny er bod lefelau uwch o angen ac arian cyhoeddus cyffredinol yng Nghymru.
  • Gellir gweld patrwm tebyg ym maes addysg lle mae’r gwariant y pen a oedd yn gyson uwch yng Nghymru o’i gymharu â Lloegr yn ystod blynyddoedd cynnar datganoli yn llawer llai amlwg erbyn hyn.
  • Mae’r gwariant ar ddatblygu economaidd yng Nghymru wedi bod yn llawer uwch na’r gwariant yn Lloegr o hyd ac, yn ystod blynyddoedd cyntaf datganoli, roedd yn uwch nag unrhyw ran arall o’r DU. Er bod y gwariant yn dal i fod yn sylweddol uwch na Lloegr, mae’n is na lefelau’r Alban a Gogledd Iwerddon erbyn hyn.
  • Tyfodd y gwariant ar ddiwylliant a hamdden yn gyflymach na’r rhan fwyaf o rannau eraill y DU tan 2007-08. Yn fwy diweddar, er bod y gwariant wedi bod yn is na’r Alban a Gogledd Iwerddon, mae wedi parhau i fod yn llawer uwch yng Nghymru na Lloegr.

Heddiw, dywedodd Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol:

“Mae’r dadansoddiad yn taflu goleuni ar y modd y cafodd yr arian cyhoeddus a wariwyd yng Nghymru ei ddefnyddio ac yn cymharu lefelau’r gwariant ar feysydd polisi bras. Ceir rhai canfyddiadau trawiadol y gall gwasanaethau cyhoeddus, llunwyr polisïau a gwleidyddion eu hystyried pan fyddant yn craffu ar gylch cynllunio presennol y gyllideb ac yn y tymor hirach.

Mae sector cyhoeddus Cymru’n gwneud penderfyniadau gan ystyried gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Drwy daflu rhywfaint o oleuni ar y gorffennol, rwy’n gobeithio y bydd y dadansoddiad hwn yn gosod sail ar gyfer penderfyniadau yn y dyfodol ac y bydd yn cynorthwyo’r rheini a fydd yn gyfrifol am lywodraeth ddatganoledig a gwariant cyhoeddus Cymru dros yr ugain mlynedd nesaf.”

Diwedd

Nodiadau i olygyddion:

  • Mae’r adroddiad a’r offeryn data’n asesu sut y mae gwariant cyhoeddus yng Nghymru wedi newid ers datganoli ym 1999, a hynny o’i gymharu â gwariant cyhoeddus mewn rhannau eraill o’r DU.
  • Mae offeryn data gwariant cyhoeddus yr Archwilydd Cyffredinol ar gael ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru. Mae’r offeryn yn cynnwys dadansoddiad hirdymor o'r gwariant cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r adroddiad a’r offeryn yn seiliedig ar set ddata’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Cyllid Cyhoeddus Gwledydd a Rhanbarthau 2017-18 sy’n cynnwys gwariant wedi’i ddatganoli a gwariant heb ei ddatganoli. 
  • Archwilydd allanol statudol annibynnol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus datganoledig Cymru yw’r Archwilydd Cyffredinol. Mae’n gyfrifol am gynnal archwiliad blynyddol o’r rhan fwyaf o’r arian cyhoeddus sy’n cael ei wario yng Nghymru, gan gynnwys y £15 biliwn o arian y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn pleidleisio arno bob blwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru’n trosglwyddo rhannau o’r arian hwn i Wasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru (dros £7 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).
  • Mae annibyniaeth archwilio’r Archwilydd Cyffredinol yn hollbwysig. Fe’i penodir gan y Frenhines, ac nid yw’r Cynulliad Cenedlaethol na’r llywodraeth yn cyfarwyddo nac yn rheoli ei waith. 
  • Corff corfforaethol a chanddo Fwrdd o naw aelod statudol yw Swyddfa Archwilio Cymru. Mae’n cyflogi staff ac yn darparu adnoddau i’r Archwilydd Cyffredinol sydd hefyd yn Brif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu’r Bwrdd. Mae’r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori’r Archwilydd Cyffredinol o ran y modd y mae’n arfer ei swyddogaethau.