Llai o aelwydydd mewn tlodi tanwydd ond Llywodraeth Cymru yn methu â chyrraedd ei thargedau

3 Hyd 2019 - 12:04yb

Targedau sy’n ymwneud â dileu tlodi tanwydd yn ‘hynod uchelgeisiol’ o ystyried cymhlethdod a diffyg rheolaeth Llywodraeth Cymru ar rai achosion allweddol

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd ei thargedau ar gyfer dileu tlodi tanwydd er bod ei chamau gweithredu i’w gweld fel pe baent wedi cyfrannu at ei leihau. Dyna un o brif negeseuon adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw, gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Dengys adroddiad heddiw fod nifer yr aelwydydd yr amcangyfrifir eu bod mewn tlodi tanwydd wedi gostwng fwy na hanner mewn deng mlynedd – o 332,000 yn 2008 i 155,000 yn 2018. Ond fe osododd Llywodraeth Cymru dargedau uchelgeisiol iddi hi ei hun – i ddileu tlodi tanwydd ymhlith yr holl grwpiau agored i niwed erbyn 2010, mewn tai cymdeithasol erbyn 2012 ac yn y boblogaeth gyffredinol erbyn 2018. Nid yw’r targedau hyn wedi cael eu cyrraedd.

Mae trechu tlodi tanwydd yn gymhleth gyda’r achosion a’r ymatebion yn rhychwantu ffiniau sefydliadol. Roedd targedau Llywodraeth Cymru yn hynod uchelgeisiol o gofio bod rhai achosion allweddol, megis incwm aelwydydd a chost ynni, yn rhannol neu’n gyfan gwbl y tu hwnt i’w rheolaeth.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwario £249 miliwn, sy’n cynnwys peth arian o gronfeydd yr UE, ar ei rhaglen Cartrefi Cynnes i leihau tlodi tanwydd, yn bennaf trwy wella effeithlonrwydd ynni cartrefi – ond hefyd trwy roi cyngor i bobl ar faterion megis cynyddu incwm i’r eithaf ac arbed ynni. Ond nid yw’n eglur faint y mae hyn wedi cyfrannu at ei leihau ac mae tlodi tanwydd yn dal i fod yn broblem i nifer sylweddol o bobl. Yn 2018, amcangyfrifwyd fod canrannau’r rhai a oedd mewn tlodi tanwydd fel a ganlyn: 12% o’r holl aelwydydd yng Nghymru (155,000); 11% o’r aelwydydd agored i niwed (130,000); 9% o’r holl aelwydydd mewn tai cymdeithasol (21,000). Amcangyfrifwyd fod 32,000 o aelwydydd (2% o’r holl aelwydydd) mewn tlodi tanwydd difrifol, yr oedd 19,000 ohonynt yn aelwydydd agored i niwed.

Canfu adroddiad heddiw fod Llywodraeth Cymru, fel rhan o’i hymdrechion i ddatblygu dull mwy cyfannol o drechu tlodi, wedi ceisio gweithio gyda chyrff eraill ac wedi cydgysylltu ei hadrannau ei hun i fynd i’r afael ag achosion ehangach tlodi tanwydd. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi mewn rhaglenni ehangach, megis gwaith i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru ar draws tai cymdeithasol.

Fodd bynnag, ceir rhai tensiynau cynhenid rhwng gwahanol nodau polisi. Mae’r adroddiad yn amlygu tensiynau rhwng ceisio dileu allyriadau carbon o dai domestig a blaenoriaethu ymdrechion a chyllid ar aelwydydd tlawd o ran tanwydd sy’n tueddu i ddefnyddio llai o ynni ac y gall fod angen iddynt ddefnyddio mwy o ynni er mwyn peidio â  byw mewn cartref oer, nad yw’n iach.

Mae’r adroddiad yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru eu hystyried wrth iddi ymgynghori ar gynllun tlodi tanwydd newydd a’i gwblhau, gan gynnwys:

  • Dysgu gwersi o’r methiant i gyrraedd y targedau cyfredol a bennwyd yn 2010 wrth benderfynu ar unrhyw uchelgeisiau newydd
  • Cysylltu cynlluniau tlodi tanwydd â gwaith arall i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi tanwydd
  • Ystyried sut y gallai cynlluniau tlodi tanwydd atal costau mewn meysydd gwasanaeth eraill a chyfrannu at nodau polisi ehangach wrth bennu cyllidebau rhaglenni yn y dyfodol

Meddai’r Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton, heddiw:

“Mae byw mewn cartref oer, llaith, yn effeithio ar les meddyliol a chorfforol pobl ac mae ymdrin â chanlyniadau tlodi tanwydd yn cynyddu gwariant cyhoeddus arall, er enghraifft yn y GIG. Felly mae’n dda gweld bod buddsoddiad Llywodraeth Cymru wedi helpu i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi pobl a’i fod i’w weld yn rhan o’r stori o ostwng cyfraddau tlodi tanwydd. Ond, o ystyried nad yw wedi cyrraedd ei thargedau ei hun i ddileu tlodi tanwydd, mae gwersi i Lywodraeth Cymru eu dysgu wrth iddi ystyried ei huchelgeisiau a’i rôl yn y dyfodol.”

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion:

  • Trosolwg lefel-uchel gychwynnol o uchelgeisiau presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer tlodi tanwydd a’i chynnydd hyd yma yw’r adroddiad hwn. Nod ein gwaith yw darparu peth mewnwelediad i ymdrechion ers cyhoeddi Strategaeth Tlodi Tanwydd Llywodraeth Cymru yn 2010.
  • Diffiniad Llywodraeth Cymru o dlodi tanwydd yw ‘byw ar incwm is mewn cartref na ellir ei gadw’n gynnes am gost resymol’. Mae wedi mabwysiadu’r ddau fesur canlynol i asesu cyfraddau tlodi tanwydd:
    • Os oes angen i aelwyd wario mwy na 10% o’i hincwm i gadw’n gynnes, mae mewn tlodi tanwydd.
    • Os oes angen i aelwyd wario mwy nag 20% o’i hincwm, mae mewn tlodi tanwydd difrifol.
  • Cyhoeddir adroddiad heddiw cyn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gynllun tlodi tanwydd newydd. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu lansio ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Hydref 2019 a chyhoeddi Cynllun Tlodi Tanwydd newydd ym mis Chwefror 2020.
  • Ar y cam hwn, nid ydym wedi bwrw golwg fanwl ar werth am arian y ddau brif gynllun effeithlonrwydd ynni cartref – ‘Nyth’ ac ‘Arbed’. Fodd bynnag, rydym yn ystyried gwneud gwaith pellach i fwrw golwg ar y cynlluniau hyn cyn bo hir. Mae Aelod Cynulliad wedi ysgrifennu at yr Archwilydd Cyffredinol i nodi pryderon penodol ynghylch y cynllun Arbed.
  • Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol annibynnol y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae’n gyfrifol am fynd ati’n flynyddol i archwilio’r mwyafrif o’r arian cyhoeddus a gaiff ei wario yng Nghymru, gan gynnwys y £15 biliwn o arian y pleidleisir arno’n flynyddol gan y Cynulliad Cenedlaethol. Caiff elfennau o’r cyllid hwn eu trosglwyddo gan Lywodraeth Cymru i’r GIG yng Nghymru (dros £7 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).
  • Mae annibyniaeth archwilio’r Archwilydd Cyffredinol o’r pwys mwyaf. Fe’i penodir gan y Frenhines, ac nid yw ei waith archwilio’n cael ei gyfarwyddo na’i reoli gan y Cynulliad Cenedlaethol na’r Llywodraeth. 
  • Corff corfforaethol sy’n cynnwys Bwrdd statudol ac iddo naw aelod yw Swyddfa Archwilio Cymru sy’n cyflogi staff ac yn darparu adnoddau eraill ar gyfer yr Archwilydd Cyffredinol, sydd hefyd yn gweithredu fel Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu’r Bwrdd. Mae’r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori’r Archwilydd Cyffredinol, o ran arfer ei swyddogaethau.