Mae ceisiadau ar gyfer ein rhaglen i raddedigion bellach ar agor
Oes gennych chi ddiddordeb mewn sut mae arian yn cael ei wario?
Ydych chi am helpu i gefnogi gwella gwasanaethau cyhoeddus?
Ydych chi eisiau gyrfa sy'n cyfrif?
Os felly, efallai mai bod yn hyfforddai graddedig yn Swyddfa Archwilio Cymru yw’r cyfle perffaith i chi.
Am y swydd
Fel Hyfforddai Graddedig, byddwch yn gweithio gyda thimau ar waith archwilio ariannol a pherfformiad. Byddwch yn gweithio tuag at ddod yn arweinydd y dyfodol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ac yn astudio'r cymhwyster cyfrifeg uchel ei barch ac a gydnabyddir yn rhyngwladol, sef cymhwyster Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr (ICAEW).
Dyddiad cau: 7 Ionawr 2020
Nid yw gyrfa yn Swyddfa Archwilio Cymru yn ymwneud â rhifau yn unig, mae'n ymwneud â gwneud gwahaniaeth - gyrfa sydd wirioneddol yn cyfrif!