Dylai arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus sicrhau bod mynd i’r afael â thwyll yng Nghymru yn cael mwy o flaenoriaeth

dydd Iau, Gorffennaf 30, 2020 - 12:04yb

Mae COVID-19 wedi dangos bod twyllwyr yn ymddangos cyn gynted ag y bydd cyfle’n codi.

Rydym wedi gweld arfer da mewn rhai cyrff cyhoeddus wrth iddynt adnabod a rhannu’r risgiau diweddaraf o dwyll sy’n gysylltiedig â COVID-19. Ond, o archwilio effeithiolrwydd cyffredinol trefniadau atal twyll mewn tua 40 o gyrff cyhoeddus, mae’n amlwg bod angen i’r cyrff hynny ddod ynghyd i wella eu perfformiad a dysgu gan eraill er mwyn mynd i’r afael yn fwy effeithiol â thwyll yng Nghymru. Dyna sy’n cael ei nodi mewn adroddiad newydd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Mae twyll yn fygythiad cyson, ac mae pob punt a gaiff ei dwyn o’r sector cyhoeddus yn golygu bod llai o arian ar gael i’w wario ar wasanaethau allweddol megis iechyd, addysg a gwasanaethau cymdeithasol.

Mae twyllwyr yn achub ar bob cyfle i ecsbloetio gwendidau a phobl agored i niwed, ac mae’r pandemig COVID-19 wedi arwain at gynnydd enfawr mewn gweithgareddau twyllodrus. Adroddwyd ynghylch yr achos cyntaf o COVID-19 yn y DU ar 31 Ionawr 2020 a chofnodwyd yr achos cyntaf o dwyll yn ymwneud â COVID-19 naw diwrnod yn unig yn ddiweddarach. Ers hynny, mae nifer yr adroddiadau ynghylch twyll wedi cynyddu’n sylweddol ledled y DU – cafwyd adroddiadau ar y cyfryngau ynghylch nifer ddigynsail o sgamiau sy’n gysylltiedig â’r feirws.

Mae ein hadroddiad yn nodi saith thema allweddol (gweler y Nodiadau i Olygyddion) y mae angen i bob corff cyhoeddus ganolbwyntio arnynt wrth wella eu perfformiad o safbwynt mynd i’r afael â thwyll yn fwy effeithiol. Mae’r adroddiad yn disgrifio’r trefniadau presennol ar gyfer atal a chanfod twyll ledled Cymru ac mae’n gwneud 15 o argymhellion sy’n cynnwys yr angen i gryfhau arweinyddiaeth strategol, gwaith cydlynu a goruchwyliaeth ym maes atal twyll ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.  

Mae effeithiolrwydd trefniadau atal twyll ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru yn amrywio’n sylweddol. Mae’n amlwg bod GIG Cymru yn arwain y ffordd, ond mae angen i gyrff llywodraeth leol yn gyffredinol wella eu perfformiad fel ei fod yn cyfateb o leiaf i’r safon a welir yn y GIG. Wedi dweud hynny, gallai hyd yn oed y trefniadau gorau sydd ar waith yng Nghymru ar hyn o bryd ar gyfer atal twyll gael eu cryfhau drwy fanteisio ar yr arfer da a welir mewn mannau eraill yn y DU ac yn rhyngwladol.

Mewn cyrff cyhoeddus lle nad oes digon o adnoddau’n cael eu neilltuo ar hyn o bryd i drefniadau atal twyll, mae’r sefyllfa weithiau fel y mae oherwydd rhagdybiaethau di-sail ynghylch lefelau isel o dwyll. Mae hynny’n dangos yr angen am asesiadau mwy cadarn o’r risgiau o dwyll, ynghyd â’r angen i godi ymwybyddiaeth a gwella hyfforddiant i staff. At hynny, mae angen gwneud mwy o ddefnydd o wyddor dadansoddi data er mwyn cryfhau’r trefniadau ar gyfer atal a chanfod twyll.

Mae buddsoddi adnoddau mewn atal a chanfod twyll yn ddefnydd da o arian, yn enwedig yng nghyd-destun y pwysau difrifol sydd ar gyllid yn y sector cyhoeddus ac yng nghyd-destun yr angen i gyflawni mwy gyda llai o adnoddau.

Mae’r pandemig COVID-19 yn golygu bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus gydweithio’n fwy effeithiol wrth ymateb i sgamwyr a thwyllwyr. Er bod cyrff unigol yn gyfrifol am eu trefniadau eu hunain, mae angen hefyd i Lywodraeth Cymru wella ei harweinyddiaeth strategol ym maes gweithgareddau atal twyll ar draws Cymru, a chyflawni rôl gydlynu os yw hynny’n bosibl iddi.

Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton

Nodiadau i Olygyddion:

  • Mae ein hadroddiad yn nodi saith thema allweddol y mae angen i bob corff cyhoeddus yng Nghymru sydd o fewn cylch gwaith yr Archwilydd Cyffredinol ganolbwyntio arnynt wrth wella eu perfformiad o safbwynt mynd i’r afael â thwyll yn fwy effeithiol:
    • Diwylliant ac arweinyddiaeth
    • Rheoli risg a sicrhau rheolaeth
    • Polisïau a hyfforddiant
    • Capasiti ac arbenigedd
    • Offer a data
    • Cydweithio
    • Adrodd a chraffu.
  • Ym mis Mehefin 2019, gwnaethom gyhoeddi adroddiad ynghylch atal twyll, a oedd yn cynnwys trosolwg o hyd a lled twyll yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, ynghyd â disgrifiad o drefniadau atal twyll ar draws Llywodraeth Cymru, y GIG a llywodraeth leol. Roedd yr adroddiad hwnnw’n amcangyfrif y gallai cost twyll i’r sector cyhoeddus yng Nghymru fod rhwng £100 miliwn ac £1 biliwn bob blwyddyn. Gwnaethom lunio’r amcangyfrif hwnnw drwy gymhwyso ystod ganrannol Swyddfa Cabinet y DU ar gyfer amcangyfrif twyll yn y sector cyhoeddus, sef rhwng 0.5% a 5%, i gyfanswm gwariant blynyddol datganoledig Cymru, sef £19.6 biliwn. Roedd y ffigur hwnnw’n cynnwys y grant bloc o £14.5 biliwn yn ogystal â gwariant arall a gaiff ei ariannu drwy drefniadau benthyca lleol, trethi ac incwm arall. 
  • Mae’r adroddiad diweddaraf hwn yn gwneud 15 o argymhellion penodol ac mae’n ymdrin â’r ffordd orau y gall y sector cyhoeddus ‘wella ei berfformiad’ o safbwynt mynd i’r afael â thwyll yng Nghymru.
  • Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol annibynnol y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae’n gyfrifol am archwilio’n flynyddol y rhan fwyaf o’r arian cyhoeddus a gaiff ei wario yng Nghymru, gan gynnwys y cronfeydd gwerth £15 biliwn y pleidleisir yn eu cylch yn flynyddol gan Senedd Cymru. Caiff elfennau o’r cyllid hwnnw eu trosglwyddo gan Lywodraeth Cymru i’r GIG yng Nghymru (dros £7 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).
  • Mae annibyniaeth yr Archwilydd Cyffredinol wrth archwilio yn hollbwysig. Caiff ei benodi gan y Frenhines, ac nid yw ei waith archwilio’n rhwym wrth gyfarwyddyd na rheolaeth gan Senedd Cymru nac unrhyw lywodraeth. 
  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gorff corfforaethol sy’n cynnwys Bwrdd statudol a chanddo naw aelod. Mae’n cyflogi staff ac yn rhoi adnoddau eraill i’r Archwilydd Cyffredinol sydd hefyd yn Brif Weithredwr ac yn Swyddog Cyfrifyddu’r Bwrdd. Mae’r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori’r Archwilydd Cyffredinol ynghylch y modd y mae’n cyflawni ei swyddogaethau.
  • Archwilio Cymru yw’r enw ymbarél ar gyfer Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru. Mae Archwilio Cymru yn nod masnach cofrestredig ond nid yw’n endid cyfreithiol yn ei rinwedd ei hun.