Cyfrifon wedi cael barn amodol mewn traean o’r cynghorau tref a chymuned

dydd Mercher, Chwefror 5, 2020 - 12:00yb

Dim ond 66% o gynghorau a gydymffurfiodd â’r terfyn amser statudol ar gyfer cyhoeddi eu cyfrifon archwiliedig

Mae’r graddfeydd amser i gynghorau gyhoeddi eu cyfrifon wedi’u nodi mewn cyfraith, ac eto dim ond 486 o gynghorau (66%) a gydymffurfiodd â’r terfyn amser hwn yn 2019. O ran y sefyllfa ar 30 Tachwedd 2019, er bod 51 o archwiliadau pellach wedi cael eu cwblhau, roedd 38 o gynghorau cymuned yn dal heb gyflwyno cyfrifon i gael eu harchwilio. Hefyd, mae nifer yr archwiliadau a gafodd farn amodol, sef 218 o gynghorau, yn dal i fod yn rhy uchel. Felly y mae hi yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw (5 Chwefror 2020) gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Mae’r trefniadau archwilio ar gyfer cynghorau cymuned wedi’u bwriadu i roi lefel resymol o gysur i drigolion lleol bod arian cyhoeddus yn cael ei drin yn effeithiol. Gyda chynghorau’n trin mwy o arian cyhoeddus nag erioed, mae’n fwyfwy pwysig bod cynghorau’n dilyn y broses a nodir mewn cyfraith. Fodd bynnag, dengys adroddiad heddiw fod nifer y cynghorau sy’n methu â chyflwyno’u cyfrifon ar amser wedi codi o’i gymharu â’r llynedd. Mae hyn wedi arwain at 218 barn archwilio amodol hyd yma, sy’n golygu bod 218 o gynghorau naill ai wedi methu â chydymffurfio â’u gofynion statudol, neu wedi camddatgan gwybodaeth yn eu ffurflen flynyddol. Er bod hyn yn llai na’r llynedd, gall y nifer hwn gynyddu unwaith y bydd gwaith ar y cynghorau sy’n weddill wedi cael ei gwblhau.

Yn ystod 2019, cyhoeddwyd deuddeg adroddiad o’r fath er budd y cyhoedd oherwydd methiannau arwyddocaol o ran rheoli arian cyhoeddus gan gynghorau lleol.

Ceir amgylchiadau lle mae materion mor arwyddocaol fel bod yr Archwilydd Cyffredinol yn dwyn y rhain i sylw’r cyhoedd. Yn ystod 2019, cyhoeddwyd deuddeg adroddiad o’r fath er budd y cyhoedd oherwydd methiannau arwyddocaol o ran rheoli arian cyhoeddus gan gynghorau lleol.

Mae adroddiad heddiw’n nodi pum pwynt allweddol:

  • Mae cynghorau cymuned yn rheoli mwy o arian ond mae cyfle i adolygu gwasanaethau a chyllidebau
  • Dim ond 66% o gynghorau a gydymffurfiodd â’r terfyn amser statudol ar gyfer cyhoeddi cyfrifon archwiliedig
  • Mae nifer yr archwiliadau â barn amodol wedi cwympo ond mae’r nifer cyfredol, sef 218 o gynghorau, yn rhy uchel o hyd
  • Fe arweiniodd problemau arwyddocaol at gyhoeddi adroddiadau er budd y cyhoedd ar 12 o gynghorau
  • Archwiliad 2019-20 yw’r archwiliad olaf dan y trefniadau presennol a gofynnir am farn cynghorau ynglŷn â’r newidiadau arfaethedig

Mae disgwyl i gynghorau lleol fod â rôl fwyfwy pwysig o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus ac mewn cymunedau lleol.

Er fy mod wrth fy modd i weld yr ymateb cadarnhaol gan rai cynghorau i’r argymhellion a wnaethom y llynedd, rwy’n siomedig bod rhai cynghorau’n dal i gael barnau amodol am resymau lluosog.

Rwy’n argymell bod yr holl gynghorau’n ystyried y materion a godir yn yr adroddiad hwn ac yn ystyried a all unrhyw faterion o’u plith fod yn berthnasol iddynt hwy.

Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton

Nodiadau i Olygyddion:

  • Mae rhyw 735 o gynghorau tref a chymuned yng Nghymru. Fel un o haenau llywodraeth leol, maent yn gyrff etholedig, a chanddynt bwerau a hawliau yn ôl disgresiwn a osodwyd mewn cyfraith gan y Senedd i gynrychioli eu cymunedau a darparu gwasanaethau ar eu cyfer.
  • Mae Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 yn ei gwneud yn ofynnol bod cynghorau lleol yn paratoi eu cyfrifon hyd at 31 Mawrth bob blwyddyn a bod y cyfrifon hynny’n cael eu harchwilio gan yr Archwilydd Cyffredinol. Mae Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 yn nodi’r amserlen ar gyfer paratoi a chymeradwyo’r cyfrifon blynyddol
  • Mae’r broses archwilio’n cynnwys adolygiad o’r cyfrifon blynyddol ac archwiliad o drefniadau rheolaeth ariannol a llywodraethu’r cyngor sy’n tanategu’r ymdrechion i sicrhau gwerth am arian yn nefnydd cynghorau o adnoddau.
  • Mae archwilwyr yn cyhoeddi barnau archwilio ‘amodol’ pan fo cynghorau’n methu â chydymffurfio â’u cyfrifoldebau statudol neu lle mae archwilwyr yn dod i’r casgliad bod yr wybodaeth a nodir yn y ffurflen flynyddol wedi’i chamddatgan.
  • Ceir astudiaethau achos ar dudalennau 15, 16, 30
  • Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol annibynnol y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae’n gyfrifol am fynd ati’n flynyddol i archwilio’r mwyafrif o’r arian cyhoeddus a gaiff ei wario yng Nghymru, gan gynnwys y £15 biliwn o arian y pleidleisir arno’n flynyddol gan y Cynulliad Cenedlaethol. Caiff elfennau o’r cyllid hwn eu trosglwyddo gan Lywodraeth Cymru i’r GIG yng Nghymru (dros £7 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).
  • Mae annibyniaeth archwilio’r Archwilydd Cyffredinol o’r pwys mwyaf. Fe’i penodir gan y Frenhines, ac nid yw ei waith archwilio’n cael ei gyfarwyddo na’i reoli gan y Cynulliad Cenedlaethol na’r Llywodraeth.
  • Corff corfforaethol sy’n cynnwys Bwrdd statudol ac iddo naw aelod yw Swyddfa Archwilio Cymru sy’n cyflogi staff ac yn darparu adnoddau eraill ar gyfer yr Archwilydd Cyffredinol, sydd hefyd yn gweithredu fel Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu’r Bwrdd. Mae’r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori’r Archwilydd Cyffredinol, o ran arfer ei swyddogaethau.