Angen newidiadau i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus er mwyn iddynt wireddu eu llawn botensial

8 Hyd 2019 - 12:00yb

Mae angen i BGCau ddechrau meddwl a gweithredu’n wahanol, a chael y rhyddid i weithio’n fwy hyblyg, meddai’r Archwilydd Cyffredinol

Mae’r 19 o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus newydd – a sefydlwyd yng Nghymru i wella llesiant cymunedau – yn annhebygol o wireddu eu potensial oni bai bod newidiadau’n cael eu cyflwyno. Mae adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw (8 Hydref 2019) gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn galw arnynt i weithio’n fwy hyblyg ac i feddwl a gweithredu’n wahanol.  

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru sefydlu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGCau) dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Aelodau pob BGC yw’r cyrff cyhoeddus lleol a rhai grwpiau gwirfoddol o’r ardal y maent yn ei gwasanaethu. Mae’n ofynnol iddynt asesu cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn yr ardaloedd y maent yn eu gwasanaethu a phennu amcanion i gynyddu i’r eithaf eu cyfraniadau hwy eu hunain at y nodau llesiant cenedlaethol.
Ond mae adroddiad heddiw’n amlygu nifer o broblemau gyda’r ffordd y mae BGCau yn gweithredu ar hyn o bryd. Nid yw cyrff cyhoeddus wastad wedi cymryd y cyfle i fynd ati’n effeithiol i drefnu a darparu adnoddau ar gyfer gwaith y BGCau. Ni chreffir yn gyson ar BGCau ac nid ydynt yn cael eu dwyn i gyfrif yn gyson. Ac, er bod cyrff cyhoeddus yn gwerthfawrogi BGCau, nid oes cytundeb ynglŷn â sut y dylai eu rôl esblygu. Ystyrir bod diffyg cyllid pwrpasol yn cyfyngu ar botensial BGCau i gael effaith gadarnhaol a pharhaus ar gymunedau Cymru.

Er bod gan y BGCau yr aelodau cywir ar y cyfan, nid yw rhai partneriaid allweddol yn chwarae rhan weithredol. Mae cyrff cyhoeddus sy’n gweithio ar draws rhanbarthau’n ei chael yn her cyfranogi mewn Byrddau niferus ac mae gorgyffwrdd o hyd rhwng y BGCau a gwaith ac aelodaeth partneriaethau eraill, yn enwedig y 7 Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol – a sefydlwyd ym mis Ebrill 2016 i lywio’r drefn ranbarthol strategol ar gyfer darparu gwasanaethau cymdeithasol mewn cydweithrediad agos gydag asiantaethau iechyd.

Un o rolau Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yw rhoi cyngor i gyrff cyhoeddus ac i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus; fodd bynnag, nid yw’r cyngor hwn wastad yn cael ei werthfawrogi ac ni weithredir arno bob amser ychwaith.

Mae adroddiad heddiw’n gwneud nifer o argymhellion ar gyfer gwella, gan gynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru alluogi BGCau i ddatblygu modelau gweithio hyblyg, gan gynnwys uno, lleihau ac integreiddio’u gwaith gyda fforymau eraill, megis Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a rhoi iddynt yr hyblygrwydd i dderbyn, rheoli a gwario arian grant.
  • Gwella tryloywder ac atebolrwydd trwy wneud cyfarfodydd, agendâu, papurau a chofnodion BGCau yn hygyrch ac ar gael i’r cyhoedd.
  • Dylai BGCau a byrddau cyhoeddus ddefnyddio canfyddiadau papur trafod ar graffu effeithiol a gyhoeddwyd yn gynharach gan yr Archwilydd Cyffredinol i gryfhau trefniadau a gweithgarwch goruchwylio.

Meddai’r Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton, heddiw:

“Mae gan Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus y potensial i alluogi’r cydweithio effeithiol sy’n hollol hanfodol er mwyn i Gymru ffynnu mewn cyfnod anodd. Ond mae’r ffordd y maent yn gweithredu ar hyn o bryd yn llesteirio’u gallu i wella llesiant eu cymunedau. Mae fy adroddiad i’n amlygu rhai camau gweithredu pendant a ddylai gael eu cymryd, gan Lywodraeth Cymru a’r Byrddau eu hunain, i helpu BGCau i wireddu eu llawn botensial.”

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion:

  • Mae’r adroddiad hwn yn archwilio sut y mae BGCau yn gweithredu; gan ystyried eu haelodaeth; amodau gorchwyl; amlder a ffocws cyfarfodydd; aliniad â phartneriaethau eraill; adnoddau a threfniadau craffu.
  • Adolygiad cam un yw hwn o drefniadau gweithio mewn partneriaeth, a bydd adroddiad pellach ar adolygiad dilynol yn cael ei gyhoeddi yn 2020.
  • Aelodau’r 19 o BGCau yw’r cyngor lleol, y Bwrdd Iechyd Lleol, yr Awdurdod Tân ac Achub a Cyfoeth Naturiol Cymru, Gweinidogion Cymru, Prif Gwnstabliaid, y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, rhai Gwasanaethau Prawf, grwpiau gwirfoddol ac eraill. Ceir un BGC i bobl awdurdod lleol ac eithrio BGC Cwm Taf sy’n gwasanaethu Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, BGC cyfunol ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn a BGC ar y cyd ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych.
  • Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol annibynnol y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae’n gyfrifol am fynd ati’n flynyddol i archwilio’r mwyafrif o’r arian cyhoeddus a gaiff ei wario yng Nghymru, gan gynnwys y £15 biliwn o arian y pleidleisir arno’n flynyddol gan y Cynulliad Cenedlaethol. Caiff elfennau o’r cyllid hwn eu trosglwyddo gan Lywodraeth Cymru i’r GIG yng Nghymru (dros £7 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn). Mae annibyniaeth archwilio’r Archwilydd Cyffredinol o’r pwys mwyaf. Fe’i penodir gan y Frenhines, ac nid yw ei waith archwilio’n cael ei gyfarwyddo na’i reoli gan y Cynulliad Cenedlaethol na’r Llywodraeth.
  • Corff corfforaethol sy’n cynnwys Bwrdd statudol ac iddo naw aelod yw Swyddfa Archwilio Cymru sy’n cyflogi staff ac yn darparu adnoddau eraill ar gyfer yr Archwilydd Cyffredinol, sydd hefyd yn gweithredu fel Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu’r Bwrdd. Mae’r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori’r Archwilydd Cyffredinol, o ran arfer ei swyddogaethau.