Angen gwella gwasanaethau i bobl ifanc

19 Medi 2019 - 12:04yb

Adroddiadau’n adnabod diffyg cymorth mewn meysydd allweddol 

Mae cyfleoedd i wella’r modd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cefnogi llesiant pobl ifanc wedi’u hamlygu mewn cyfres o adroddiadau a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae’r gwaith yn canolbwyntio ar bum pwnc: digartrefedd ieuenctid, oedolion ifanc sy’n ofalwyr, rhieni ifanc, iechyd meddwl, a sgiliau a chyflogadwyedd. Mae’r adroddiadau’n amlygu diffyg cymorth mewn rhai meysydd allweddol y mae angen i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru fynd i’r afael ag ef.

Mae’r problemau cymhleth a wynebir gan rai pobl ifanc yn aml yn golygu eu bod yn cael eu hanfon rhwng gwahanol asiantaethau. Dengys ymchwil fod pobl ifanc sy’n byw mewn llety dros dro yn fwy tebygol o fod ag anhwylder seiciatrig na’r boblogaeth gyffredinol. Yn yr un modd, mae oedolion ifanc sy’n ofalwyr yn fwy tebygol o fod â phroblem iechyd meddwl, ac mae rhieni ifanc yn fwy tebygol o fod ag iselder. Mae llawer o bobl ifanc yn methu â chael cymorth gan Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) am nad oes ganddynt afiechyd meddwl y gellir ei ddiagnosio ac nid yw Llywodraeth Cymru yn gwybod a yw’r bobl ifanc hyn yn cael help o rywle arall na pha wasanaethau sydd ar gael i helpu i ddiwallu eu hanghenion. Weithiau mae pobl ifanc agored i niwed yn cael bod rhaid iddynt gydgysylltu gwasanaethau drostynt eu hunain.

Ar ôl degawd o doriadau mewn cyllidebau, mae’r adroddiadau’n nodi’r canfyddiad bod llawer o wasanaethau’n teimlo’r pwysau, gyda phryderon bod pobl ifanc yn arbennig yn cael eu taro’n galed. Gellir gwneud mwy i gydgysylltu gwasanaethau a sicrhau eu bod yn diwallu anghenion pobl ifanc. Er mai Llywodraeth Cymru yw ffocws yr adroddiadau, mae gan wasanaethau cyhoeddus ledled Cymru rôl allweddol o ran mynd i’r afael â’r problemau hyn sydd wedi gwreiddio’n ddwfn.

Ar y cyfan, adnabuwyd tri maes eang yn null Llywodraeth Cymru lle ceir cyfleoedd ar gyfer gwella:

  • Bod yn chwilfrydig: Darganfod beth sydd o bwys, pa gymorth sydd ar gael a pha wahaniaeth y mae’n ei wneud
  • Bod yn bwrpasol: Cyfleu diben eglur sy’n ysbrydoli ac yn grymuso gwasanaethau cyhoeddus
  • Bod yn ddewr: Creu’r amodau sy’n rhoi anogaeth i arbrofi a dathlu llwyddiant

Meddai Archwilydd Cyffredinol Cymru, Adrian Crompton, heddiw:

“Mae angen i gyrff cyhoeddus wrando’n fwy ar bobl ifanc a deall yn well beth sydd o bwys iddynt hwy er mwyn gallu darparu gwasanaethau sy’n diwallu eu hanghenion yn llawn ar adeg hollbwysig yn eu bywydau. Mae gan Lywodraeth Cymru rôl allweddol o ran darparu arweinyddiaeth ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae fy adroddiadau’n nodi’n glir y cyfleoedd i wella’i dull ac rwy’n gobeithio bod yr wybodaeth a ddygwyd ynghyd yn ein hofferyn data’n darparu adnodd defnyddiol ar gyfer yr holl rai sydd â buddiant yn llesiant pobl ifanc.”

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion:

  • Mae’r adroddiadau’n canolbwyntio ar bobl ifanc 16-24 oed ac yn ceisio deall pa mor dda y mae Llywodraeth Cymru yn cydgysylltu ar draws ei meysydd polisi a pha effaith y mae ei dull cynllunio strategol yn ei chael ar bobl ifanc eu hunain.
  • Mae’r gwaith yn cynnwys adroddiad cryno a phum adroddiad sy’n canolbwyntio ar wahanol bynciau sy’n ymwneud â llesiant: digartrefedd ieuenctid; oedolion ifanc sy’n ofalwyr; rhieni ifanc; iechyd meddwl; a sgiliau a chyflogadwyedd. Mae’r gwaith hefyd yn cynnwys offeryn data rhyngweithiol.
  • Mae’r gwaith wedi’i fframio yng nghyd-destun ehangach trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus fel a nodir mewn amryw gynlluniau a deddfau gan Lywodraeth Cymru, megis Ffyniant i Bawb, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014) a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (2015) a’r fframwaith ategol, sef Fframwaith Cenedlaethau’r Dyfodol ar gyfer Dylunio Gwasanaethau.
  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi bod yn gweithio gyda sefydliadau eraill i archwilio thema gyffredin, sef ‘Ieuenctid’. Cyhoeddodd yr arolygiaeth addysg, Estyn, ei hadroddiad ar wasanaethau cymorth ieuenctid ym mis Gorffennaf 2018. Cyhoeddodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ei hadolygiad o wasanaethau gofal iechyd i bobl ifanc ym mis Mawrth 2019. Cyhoeddodd Arolygiaeth Gofal Cymru ei hadroddiad ar blant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal ym mis Mehefin 2019.
  • Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol annibynnol y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae’n gyfrifol am fynd ati’n flynyddol i archwilio’r mwyafrif o’r arian cyhoeddus a gaiff ei wario yng Nghymru, gan gynnwys y £15 biliwn o arian y pleidleisir arno’n flynyddol gan y Cynulliad Cenedlaethol. Caiff elfennau o’r cyllid hwn eu trosglwyddo gan Lywodraeth Cymru i’r GIG yng Nghymru (dros £7 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).
  • Mae annibyniaeth archwilio’r Archwilydd Cyffredinol o’r pwys mwyaf. Fe’i penodir gan y Frenhines, ac nid yw ei waith archwilio’n cael ei gyfarwyddo na’i reoli gan y Cynulliad Cenedlaethol na’r Llywodraeth. 
  • Corff corfforaethol sy’n cynnwys Bwrdd statudol ac iddo naw aelod yw Swyddfa Archwilio Cymru sy’n cyflogi staff ac yn darparu adnoddau eraill ar gyfer yr Archwilydd Cyffredinol, sydd hefyd yn gweithredu fel Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu’r Bwrdd. Mae’r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori’r Archwilydd Cyffredinol, o ran arfer ei swyddogaethau.