‘Bydd cydweithio’n strategol â’n gilydd yn dwyn ffrwyth i gymunedau Cymru’

05 Tachwedd 2020
  • Mae adroddiad newydd gan Swyddfa Archwilio Cymru wedi amlygu nad yw awdurdodau lleol yng Nghymru yn gwneud y defnydd gorau o'r trydydd sector, a bod yn rhaid iddynt wneud mwy i sicrhau bod y gwaith maent yn ei wneud yn parhau i sicrhau gwerth am arian. Dyma Ruth Marks, Prif Weithredwr WCVA, yn rhoi ei barn ar yr adroddiad.

    Mae’r adroddiad a gyhoeddwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru yn amlygu anghysondebau yn nhrefniadau awdurdodau lleol ar gyfer ariannu'r trydydd sector yng Nghymru, gan ei gwneud hi'n anodd dangos gwerth am yr arian a fuddsoddir (er gwaethaf cynnydd yn y cyllid gan awdurdodau lleol i’r trydydd sector – o £68.7 miliwn yn 2001-02 i £248.8 miliwn yn 2013-14 yn ôl Uned Ddata Llywodraeth Leol). Mae’n nodi bod angen i awdurdodau lleol ddatblygu rhesymeg gliriach i esbonio pam maent yn gweithio gyda'r sector ac i fod yn glir ynghylch sut mae hyn yn eu helpu i gyflawni eu blaenoriaethau.

    Dwy fenyw yn cerdded trwy parc

    Mae’r trydydd sector yng Nghymru yn gwneud pob math o waith o fewn maes buddiannau awdurdodau lleol, o’r amgylchedd i ofal cymdeithasol i gefnogi plant a phobl hŷn, ac yn gweithio mewn meysydd lle mae cynghorau eisoes wedi allanoli gweithgaredd, megis chwaraeon, hamdden a llyfrgelloedd. Mae’r sector yn arloesol, yn llawn angerdd ac yn ymroddedig, ond mae’n bwysig cofio nad yw gwirfoddol yn golygu am ddim.

    Gan hynny, credaf fod y sector yn debygol o groesawu’r adroddiad hwn ac y bydd yn awyddus i weithio’n gadarnhaol i adeiladu ar ei argymhellion. Mae gan Gynghorau Gwirfoddol Sirol ran allweddol i’w chwarae yn eu gwaith gyda chynghorau lleol, tra mae WCVA yn gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae’n bwysig ein bod, gyda’n gilydd, yn sicrhau ffordd realistig a chyson o ddarparu gwasanaethau, yn enwedig pan fo’r sector yn rhoi cymorth i bobl a all fod mewn amgylchiadau bregus, megis plant, pobl hŷn a ffoaduriaid. Mae angen cyfuniad o grantiau a chontractau, gan nad yw un maint yn ffitio’r sector cyfan, serch hynny dylid nodi bod yr adroddiad yn pwysleisio nad ar sail pris yn unig y dylid darparu gwasanaethau – mae ansawdd ac effaith yn bwysig hefyd.

    Yn sgil argymhellion yr adroddiad, hoffai WCVA weld cynghorau lleol a grwpiau trydydd sector lleol, gyda chymorth Cynghorau Gwirfoddol Sirol, yn canolbwyntio o ddifrif ar wella’r ffordd rydym yn gweithio gyda’n gilydd. Byddai WCVA a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cynnig cymorth yn genedlaethol. Mae compactau lleol yn arbennig o bwysig fel fforwm i wella cydberthnasau ac atgyfnerthu cydweithio. Bydd cydweithio’n strategol â’n gilydd yn meithrin ymddiriedaeth ac yn dwyn ffrwyth i bobl a chymunedau o amgylch Cymru. Mae hyn yn fwy hanfodol fyth yng nghyd-destun deddfwriaeth newydd megis Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).

    Hoffem hefyd feithrin gwell dealltwriaeth o’r gwerth ychwanegol y gall y sector ei roi, ac y mae arno eisiau ei roi; a datblygu ymagwedd gymesur yn hytrach na defnyddio gordd i dorri cneuen – mae yna gryn beryglon ynghlwm wrth arferion anghyson.

    Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas: ‘Mae'n rhaid i ni sicrhau bod trefniadau partneriaeth ac ariannu'n effeithiol, yn effeithlon ac yn cael eu rheoli'n dda ac yn parhau i ddiwallu anghenion y miloedd o bobl sy'n eu defnyddio ac yn dibynnu arnynt.’ Ategaf ei sylwadau. Fe fydd trefniadau effeithiol ac effeithlon sy’n cael eu rheoli'n dda yn arwain at berthynas gryfach rhwng y sector ac awdurdodau lleol a gwell gwasanaethau i bobl o amgylch y wlad. Mawr obeithiaf y bydd yr adnodd hunanwerthuso i awdurdodau lleol a ddarperir yn yr adroddiad yn helpu i wireddu hyn.

    ruth_marks_295x385Ynglŷn â’r awdur: Ruth Marks yw Prif Weithredwraig WCVA ac yn flaenorol hi oedd Comisiynydd Pobl Hŷn cyntaf Cymru - a'r byd. Graddiodd Ruth o Brifysgol Coleg Caerdydd yn y gyfraith a hanes, ac mae hi wedi gwirfoddoli drwy gydol ei bywyd.  Mae ganddi gryn brofiad o fod yn ymddiriedolwr ar gyfer nifer o elusennau a mudiadau gwirfoddol, gan gynnwys ar gyfer WCVA rhwng 2001 a 2008. Dyfarnwyd MBE iddi yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2007 am wasanaethau i waith ym maes lles.