Teithio rhatach ar fysiau i bobl ifanc

10 Ion 2019 - 12:08yb

Yr Archwilydd Cyffredinol yn craffu ar gynllun ‘FyNgherdynTeithio’ Llywodraeth Cymru, gan godi cwestiynau ynghylch gwerth am arian

Mae cynllun ‘FyNgherdynTeithio’, sydd wedi rhoi gostyngiad o un rhan o dair i bobl ifanc 16-18 oed oddi ar deithiau bws yng Nghymru, wedi costio swm sylweddol llai i Lywodraeth Cymru ers mis Ebrill 2017 o gymharu â 19 mis cychwynnol ei weithrediad. Yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru, mae hyn yn codi cwestiynau amlwg ynghylch gwerth am arian y £14.74 miliwn a wariwyd yn ystod y cyfnod peilot cychwynnol, hyd yn oed o gymryd unrhyw gostau gweithredu ymlaen llaw i ystyriaeth.

Mae Llywodraeth Cymru yn awgrymu bod y gwariant hwn hefyd wedi helpu i sicrhau manteision ychwanegol, ymhlith pryderon ehangach am gydnerthedd y diwydiant bysiau.

Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn ‘adroddiad ffeithiau yn unig’ sy’n ystyried cyhoeddiadau cyllidebol a wnaed a phenderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru wrth sefydlu’r cynllun FyNgherdynTeithio ac yna ei barhau y tu hwnt i’r cyfnod prawf cychwynnol. Mae hefyd yn ystyried costau a’r nifer a fanteisiodd arno.

Ym mis Medi 2014, cyhoeddodd Gweinidogion Llywodraeth Cymru gynllun peilot teithio rhatach ar fysiau i bobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed ar gyfer teithiau i waith neu hyfforddiant ac yn ôl. Nododd £14.75 miliwn o gyllid ar gyfer y cynllun rhwng mis Medi 2015 a mis Mawrth 2017. Cymeradwywyd cynllun gwell o fewn yr un gyllideb gan Weinidogion yn ddiweddarach, ar gyfer unrhyw daith yng Nghymru a chan gynnwys pobl ifanc 18 mlwydd oed. Mae gwariant gwirioneddol ar y cynllun wedi bod yn sylweddol is ers mis Ebrill 2017.

  • Medi 2015 i Fawrth 2016 - £5.0 miliwn
  • Ebrill 2016 i Fawrth 2017 - £9.74 miliwn
  • Ebrill 2017 i Fawrth 2018 - £1.09 miliwn
  • Ebrill 2018 i Fawrth 2019 - £1 filiwn (cyllidebwyd cyn ymestyn cymhwyster y cynllun)

Mae’r costau is ers mis Ebrill 2017 yn adlewyrchu bod yr iawndal sy’n cael ei dalu i weithredwyr bysiau yn cymryd defnydd gwirioneddol yn seiliedig ar werthiannau tocynnau rhatach i ystyriaeth erbyn hyn. Ar ôl costau canolog ar gyfer gweinyddu a marchnata’r cynllun, dyrannodd Llywodraeth Cymru gweddill y gyllideb a gytunwyd ar gyfer y cyfnod hyd at fis Mawrth 2017 ar sail fformiwla yn hytrach na nifer gwirioneddol y bobl a fanteisiodd ar y cynllun a nifer gwirioneddol y teithiau fel y disgwyliwyd i gychwyn gan na fu’n bosibl sefydlu systemau i gofnodi nifer y teithiau. Hysbyswyd Gweinidogion yn ddiweddarach gan swyddogion Llywodraeth Cymru bod y cyllid hefyd wedi helpu i sefydlogi’r rhwydwaith bysiau, gan gefnogi gwasanaethau a fyddai wedi cael eu diddymu fel arall. Fodd bynnag, ni wnaethant gais am gymeradwyaeth ffurfiol i’r newid dull ar y pryd.

Roedd amcangyfrifon cynnar Llywodraeth Cymru yn tybio y byddai 80% o bobl ifanc 16 i 18 mlwydd oed (tua 90,000 o bobl) yn manteisio ar gardiau teithio ac yn eu defnyddio ddwywaith yr wythnos ar gyfartaledd. Fodd bynnag, roedd llai na 10% o’r bobl ifanc cymwys wedi gwneud cais am gardiau teithio erbyn mis Mawrth 2017 – diwedd y cyfnod prawf cyntaf. Yng nghanol mis Awst 2018, roedd 14,939 o gardiau teithio yn weithredol o gyfanswm o 20,953 o ddeiliaid cardiau teithio ers cychwyn y cynllun. Amcangyfrifwyd y bu 1,343,659 o deithiau rhatach yn 2017-18. 

Nodiadau i Olygyddion:

  • Mae’r adroddiad yn fwriadol gyfyngedig ei gwmpas. Nid ydym wedi archwilio gweinyddiad ehangach y cynllun na’r canlyniadau cyffredinol y mae wedi eu cyflawni, gan gydnabod bod dyfodol y cynllun eisoes yn destun adolygiad gan Lywodraeth Cymru ei hun.
  • Rydym wedi cyfyngu ein gwaith casglu tystiolaeth i Lywodraeth Cymru. Nid ydym wedi ceisio safbwyntiau gweithredwyr bysiau, awdurdodau lleol, defnyddwyr gwasanaeth nac unrhyw bartïon eraill â buddiant ar ddyluniad neu weithrediad y cynllun. Nid ydym yn gwneud unrhyw sylwadau chwaith am ddyfodol y cynllun a’i rinweddau, sy’n fater polisi i Lywodraeth Cymru.
  • Mae cynllun ‘FyNgherdynTeithio’ yn berthnasol i wasanaethau bws lleol a rhwydwaith pellter hwy ‘TrawsCymru’. Nid yw’n cynnwys gwasanaethau coetsys, fel National Express a Megabus. Mae gweithredwyr bysiau yn gymwys ar gyfer Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau Llywodraeth Cymru cyn belled â’u bod yn cynnig y gostyngiad i bobl ifanc drwy’r cynllun.
  • Y gyllideb o £1 filiwn ar gyfer 2018-19 yw’r ffigur a gytunwyd pan roedd y cynllun ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 mlwydd oed yn unig. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2018 bod y cynllun yn cael ei ehangu i gynnwys pobl ifanc 19 i 21 mlwydd oed.
  • Mewn ymateb i faterion a godwyd yn ystod ein hadolygiad, adolygodd gwasanaeth archwilio mewnol Llywodraeth Cymru reolaethau yn gysylltiedig â gwariant y cynllun, gan ganolbwyntio ar drefniadau ar gyfer blwyddyn ariannol 2017-18.
  • Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol annibynnol sector cyhoeddus datganoledig Cymru. Mae’n gyfrifol am yr archwiliad blynyddol o’r rhan fwyaf o arian cyhoeddus sy’n cael ei wario yng Nghymru, gan gynnwys y £15 biliwn o gyllid y cynhelir pleidlais arnynt yn flynyddol gan y Cynulliad Cenedlaethol. Caiff elfennau o’r cyllid hwn eu trosglwyddo gan Lywodraeth Cymru i’r GIG yng Nghymru (dros £7 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).
  • Mae annibyniaeth archwilio’r Archwilydd Cyffredinol yn hollbwysig. Fe’i penodir gan y Frenhines ac nid yw ei waith archwilio yn destun cyfarwyddyd neu reolaeth gan y Cynlluniau Cenedlaethol na llywodraeth.
  • Corff corfforaethol yw Swyddfa Archwilio Cymru, sy’n cynnwys Bwrdd statudol naw aelod ac yn cyflogi staff a darparu adnoddau eraill i’r Archwilydd Cyffredinol, sef Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu’r Bwrdd hefyd. Mae’r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori’r Archwilydd Cyffredinol ynghylch arfer ei swyddogaethau.