Safon bresennol rheoli arian yn “siomedig” mewn gormod o gynghorau tref a chymuned yng Nghymru

15 Ion 2019 - 12:08yb
Daffodils

Yr Archwilydd Cyffredinol yn galw am weithredu brys wrth i’r swm o arian y mae cynghorau lleol yn ei reoli barhau i gynyddu

Mae safon bresennol llywodraethu a rheoli arian yn parhau i fod yn siomedig mewn gormod o Gynghorau Tref a Chymuned, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae nifer y problemau ariannol a nodwyd gan archwilwyr yn ystod y flwyddyn ariannol hon – sydd wedi arwain at ‘farn archwilio amodol’ – wedi dyblu. Ac mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi gorfod cyhoeddi adroddiadau ‘er budd y cyhoedd’, neu wneud argymhellion ffurfiol, i 8 o gynghorau yn 2018.

Mae Cynghorau Tref a Chymuned yn parhau i reoli symiau cynyddol o arian cyhoeddus. Gyda'i gilydd, yn 2017-18, fe wnaethon nhw godi dros £48.5 miliwn mewn incwm, yn bennaf gan dalwyr y dreth gyngor. Fe wnaethon nhw wario dros £47.4 miliwn. Oherwydd bod incwm yn parhau i fod yn uwch na gwariant, erbyn 31 Mawrth 2018, roedd eu cronfeydd wrth gefn wedi cynyddu i dros £38.7 miliwn.

Mae’r adroddiad heddiw yn dod i'r casgliad y bydd nifer sylweddol o gynghorau yn methu â chydymffurfio â'u cyfrifoldebau statudol o ran paratoi eu cyfrifon a sicrhau bod trefniadau priodol yn cael eu gwneud ar gyfer yr archwiliad statudol. Fe ddyblodd nifer yr achosion o roi ‘barn archwilio amodol’ yn 2017-18 i 340 o gynghorau. Ac unwaith eto, mae archwilwyr wedi tynnu sylw at yr angen i ddatblygu a gwella’r swyddogaeth archwilio mewnol – ac mae'r Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu cyhoeddi adroddiad cenedlaethol ynghylch archwilio mewnol yn y sector yn fuan ar ôl yr adroddiad hwn.

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y rhaglen archwilio yn y dyfodol hyd at 2021, gan ddangos y meysydd y bydd archwilwyr yn canolbwyntio arnynt. Mae'r rhain yn cynnwys cydymffurfio â rheolau sefydlog, trefniadau ar gyfer gwneud taliadau a chyflogi staff. Bydd archwiliadau yn parhau i ganolbwyntio ar feysydd lle bo archwilwyr yn nodi bod lle i wella.

Ym mis Hydref 2018, cyhoeddodd y Panel Adolygu Annibynnol ar Gynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru ei adroddiad terfynol gan wneud nifer o argymhellion. Dywed yr Archwilydd Cyffredinol fod hyn bellach yn rhoi cyfle i gynghorau Tref a Chymuned fyfyrio ar y gwasanaethau y maent yn eu darparu i’w cymunedau ac effaith ariannol unrhyw ddatblygiadau arfaethedig. Mae angen iddynt ystyried eu swyddogaeth yn y dyfodol a sut y bydd hyn yn effeithio ar eu trefniadau rheoli ariannol.

Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton: “Flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae fy archwilwyr yn datgelu diffygion mewn cynghorau Tref a Chymuned ledled Cymru ac mae'r sefyllfa’n gwaethygu. Ni all hyn barhau. Gydag incwm yn cynyddu a mwy o gyfrifoldeb, mae angen i’r sector fynd i’r afael â rheolaeth ariannol, yn awr yn fwy nag erioed. Mae angen darllen ac ystyried fy adroddiad a gweithredu arno – fel bod cymunedau yng Nghymru yn cael y gwasanaethau a'r sicrwydd y maent yn briodol yn eu haeddu.”

Diwedd

Nodiadau i olygyddion:

  • Yr adroddiad hwn yw 7fed adroddiad blynyddol yr Archwilydd Cyffredinol i lywodraethu a rheoli ariannol mewn Cynghorau Tref a Chymuned. Mae'n crynhoi'r materion a nodwyd gan archwilwyr allanol yn ystod yr archwiliad statudol o gynghorau lleol yng Nghymru.
  • Mae dros 730 o Gynghorau Tref a Chymuned yng Nghymru. Mewn rhai achosion, mae’r cynghorau hyn yn darparu gwasanaethau ar y cyd drwy gydbwyllgorau a sefydlwyd ar gyfer gwasanaethau penodol, fel arfer gwasanaethau claddu. Ceir chwe phwyllgor ar y cyd yng Nghymru. Gyda'i gilydd, mae'r adroddiad hwn yn cyfeirio at y cyrff hyn fel cynghorau lleol.
  • Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol annibynnol y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae'n gyfrifol am archwilio’r rhan fwyaf o'r arian cyhoeddus a warir yng Nghymru yn flynyddol, gan gynnwys y £15 biliwn o gyllid y pleidleisir arno bob blwyddyn gan y Cynulliad Cenedlaethol. Caiff elfennau o’r arian hwn eu trosglwyddo gan Lywodraeth Cymru i'r GIG yng Nghymru (dros £7 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).
  • Mae annibyniaeth archwilio yr Archwilydd Cyffredinol yn hollbwysig. Caiff ei benodi gan y Frenhines, ac nid yw ei waith archwilio yn destun cyfarwyddyd na rheolaeth gan y Cynulliad Cenedlaethol na’r Llywodraeth.
  • Corff corfforaethol sy’n cynnwys naw aelod bwrdd statudol yw Swyddfa Archwilio Cymru. Mae’n cyflogi staff ac yn darparu adnoddau eraill i'r Archwilydd Cyffredinol, sydd hefyd yn Brif Weithredwr i’r Bwrdd ac yn Swyddog Cyfrifyddu. Mae’r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori'r Archwilydd Cyffredinol ynghylch arfer ei swyddogaethau.