Rhagolygon cadarnhaol i gyfrifon llywodraeth ganolog ond mae lle i wella mewn rhai meysydd

17 Mai 2017 - 12:55yp

Mae gwelliannau parhaus yn amlwg o ran ansawdd a phrydlondeb cyfrifon blynyddol, ond mae lle i rai cyrff wella eu gweithdrefnau sicrhau ansawdd ac adrodd blynyddol

Gwnaeth pob un o 23 o gyrff llywodraeth ganolog Cymru gyflwyno eu cyfrifon i'w harchwilio yn brydlon ac yn gyffredinol i safon dda yn 2015-16. Fodd bynnag, mewn adroddiad newydd a ryddheir heddiw, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn annog rhagor o sefydliadau i ddefnyddio rhestrau gwirio datgelu cyfrifon er mwyn gwella ansawdd trefniadau sicrwydd.

Yn yr adroddiad blynyddol cyntaf ar ddatganiadau ariannol cyrff llywodraeth ganolog, ystyriwyd bod gan ddeunaw o'r 23 o gyrff llywodraeth ganolog (78%) brosesau sicrhau ansawdd da yn eu lle ond roedd lefel y trefniadau sicrhau ansawdd a oedd yn cael eu harfer yn amrywio.

Mae'r Archwilydd Cyffredinol hefyd yn annog rhagor o sefydliadau i ystyried defnyddio'r rhestr wirio datgelu cyfrifon, oherwydd dim ond deg o'r 23 o gyrff (43%) sy'n defnyddio'r dull hwn ar hyn o bryd i gael sicrwydd ynghylch ansawdd cyfrifon a chydymffurfio â safonau cyfrifyddu.

Byddai'r Archwilydd Cyffredinol hefyd yn hoffi gweld:

  • papurau gwaith mwy amserol, cynhwysfawr a chyflawn i alluogi cwblhau gwaith archwilio cyflymach ac osgoi mwy o bwysau ar dimau cyllid cyrff archwiliedig;
  • rhoi mwy o ystyriaeth i wella darllenadwyedd a hyd cyffredinol adroddiadau blynyddol, gan ddefnyddio dulliau fel ffeithluniau i wneud negeseuon allweddol yn fwy deniadol; a
  • thystiolaeth o baratoi ar gyfer datblygiadau cyfrifyddu ac archwilio arfaethedig, gan gynnwys newidiadau allweddol i Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol ac UK GAAP a chyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas heddiw:

“Mae cyrff llywodraeth ganolog yng Nghymru yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau, ac wrth wneud hynny, yn gwario swm sylweddol o arian cyhoeddus. Mae’n galonogol bod gwelliannau o ran ansawdd a phrydlondeb cyfrifon archwilio wedi'u nodi. Fodd bynnag ceir nifer o faterion y mae angen mynd i'r  afael â hwy o hyd, i ddileu pwysau a rhoi mwy o sicrwydd cyn newidiadau sylweddol i safonau cyfrifyddu a datblygiadau allweddol.”

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion:

  • Dyma'r adroddiad blynyddol cyntaf ar archwiliadau o ddatganiadau ariannol cyrff llywodraeth ganolog. Mae'n rhoi crynodeb o ganlyniadau gwaith archwilio ar gyfer 2015/16 a gwblhawyd mewn cyrff llywodraeth ganolog (cyrff archwiliedig) yng Nghymru.
  • Mae cyrff llywodraeth ganolog yng Nghymru yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau, ac wrth wneud hynny, yn gwario swm sylweddol o arian cyhoeddus. Fel pob corff cyhoeddus, mae'n ofynnol iddynt baratoi cyfres o ddatganiadau ariannol blynyddol (cyfrifon) a sicrhau eu bod yn destun archwilio i ddangos stiwardiaeth y cyllid cyhoeddus a ymddiriedir iddynt ac adrodd ar hyn, ac maent yn atebol am wneud hynny.
  • Mae llunio cyfrifon cywir ac amserol yn dasg sylweddol ond mae'n angenrheidiol er mwyn dangos atebolrwydd am stiwardiaeth a llywodraethu arian cyhoeddus. Gall unrhyw fethiant i gyhoeddi cyfrifon o'r fath yn brydlon adlewyrchu’n wael ar y corff archwiliedig, gan danseilio ei drefniadau rheolaeth ariannol a llywodraethu corfforaethol, yn ogystal â hyder cyffredinol yn y sefydliad.
  • Bydd y fframwaith cyfrifyddu a llywodraethu sy'n berthnasol i bob corff llywodraeth ganolog yn cael ei ddiffinio gan ei fframwaith gyfreithiol a rheoleiddio. Bydd hyn yn pennu ffurf a chynnwys y datganiadau ariannol ac unrhyw ofynion adrodd eraill fel eu Hadroddiad Blynyddol, ac unrhyw derfynau amser ar gyfer archwilio a chyhoeddi'r dogfennau hyn.
  • Mae'r sector llywodraeth ganolog wedi wynebu nifer o heriau sylweddol. Yn fwyaf nodedig yw'r pwysau ariannol parhaus tuag i lawr ar gyllidebau, sydd ochr yn ochr â'r fframwaith cyfreithiol a rheoleiddio sy'n newid (gofynion cyfrifyddu newydd ar gyfer cyrff elusennol, newidiadau i ofynion Adrodd Blynyddol ar gyfer cyrff anelusennol a phasio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol) yn cadw pwysau ar gyrff archwiliedig i ddod o hyd i ffyrdd o gyflawni mwy gyda llai.
  • Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol annibynnol y rhan fwyaf o'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae'n gyfrifol am yr archwiliad blynyddol o'r rhan fwyaf o'r arian cyhoeddus sy'n cael ei wario yng Nghymru, gan gynnwys y £15 biliwn o gronfeydd y pleidleisir yn flynyddol arnynt gan y Cynulliad Cenedlaethol. Mae elfennau o'r cyllid hwn yn cael eu trosglwyddo gan Lywodraeth Cymru i'r GIG yng Nghymru (dros £5 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).
  • Mae annibyniaeth archwilio yr Archwilydd Cyffredinol yn hollbwysig. Fe'i penodir gan y Frenhines, ac nid yw ei waith archwilio yn destun cyfarwyddyd neu reolaeth gan y Cynulliad Cenedlaethol na'r llywodraeth. 
  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gorff corfforaethol sy'n cynnwys naw aelod o'r Bwrdd statudol sy'n cyflogi staff ac yn darparu adnoddau eraill i'r Archwilydd Cyffredinol, sydd hefyd yn Brif Weithredwr ac yn Swyddog Cyfrifyddu'r Bwrdd. Mae'r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori'r Archwilydd Cyffredinol o ran arfer ei swyddogaethau.