Paratoadau yng Nghymru ar gyfer Brexit ‘heb gytundeb’ – diweddariad

25 Medi 2019 - 4:20yp

Yr Archwilydd Cyffredinol yn anfon llythyr at Bwyllgor y Cynulliad ar y cynnydd a wnaed gan gyrff cyhoeddus

Heddiw, ysgrifennodd Archwilydd Cyffredinol Cymru at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn rhoi ei sylwadau am y cynnydd a wnaed yn y misoedd diwethaf gan gyrff cyhoeddus datganoledig ledled Cymru wrth baratoi ar gyfer y posibilrwydd o Brexit ‘heb gytundeb’.

Yn dilyn ein hadroddiad, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror eleni, dywed Archwilydd Cyffredinol Cymru, Adrian Crompton, mai’r heriau allweddol sy’n wynebu arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus ar draws Cymru yn awr yw:

  • Cynnal gweithio ar y cyd: Mae cynllunio ar gyfer Brexit heb gytundeb wedi parhau, ac wedi cael ei gryfhau’n sylweddol mewn rhai meysydd, ers mis Mawrth. Ceir tystiolaeth i ddull mwy cydweithredol ledled gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Mae’n hollbwysig bod hyn yn parhau.
  • Cryfhau cyfathrebu â’r cyhoedd: Rhaid i’r gwasanaethau cyhoeddus gyfleu negeseuon clir a chyson i’r cyhoedd ynghylch goblygiadau Brexit heb gytundeb, gan adeiladu ar y trefniadau sydd yn eu lle eisoes. Yn neilltuol, mae angen i’r cyhoedd wybod yr hyn y dylent ei wneud ac, yr un mor bwysig, yr hyn na ddylent ei wneud o ran cyflenwadau o feddyginiaethau, bwyd a thanwydd.
  • Gwella gwaith craffu annibynnol: Mae angen i’r rheiny sy’n gyfrifol am lywodraethu cyrff cyhoeddus Cymru wella’u gwaith o oruchwylio a chraffu ar baratoadau ar gyfer Brexit, wrth i 31 Hydref agosáu a hefyd yn y cyfnod fydd yn dilyn yn syth wedyn. 
  • Bod yn barod i ymateb gyda’i gilydd i’r annisgwyl: Mae angen i gyrff cyhoeddus fod yn ystwyth ac addasu’n gyflym i ddatblygiadau annisgwyl, yn enwedig gan fod rhai o oblygiadau cynnar Brexit heb gytundeb yn anodd eu rhagweld. 
  • Cynllunio a pharatoi ar gyfer effeithiau yn y tymor hirach: Mae angen i gyrff cyhoeddus rannu eu sylw rhwng y canlyniadau fydd yn digwydd yn syth ar ôl Brexit heb gytundeb a pharatoi ar gyfer ei effeithiau yn y tymor hwy.

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion:

  • Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol annibynnol y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae’n gyfrifol am fynd ati’n flynyddol i archwilio’r mwyafrif o’r arian cyhoeddus a gaiff ei wario yng Nghymru, gan gynnwys y £15 biliwn o arian y pleidleisir arno’n flynyddol gan y Cynulliad Cenedlaethol. Caiff elfennau o’r cyllid hwn eu trosglwyddo gan Lywodraeth Cymru i’r GIG yng Nghymru (dros £7 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).
  • Mae annibyniaeth archwilio’r Archwilydd Cyffredinol o’r pwys mwyaf. Fe’i penodir gan y Frenhines, ac nid yw ei waith archwilio’n cael ei gyfarwyddo na’i reoli gan y Cynulliad Cenedlaethol na’r Llywodraeth.
  • Corff corfforaethol sy’n cynnwys Bwrdd statudol ac iddo naw aelod yw Swyddfa Archwilio Cymru sy’n cyflogi staff ac yn darparu adnoddau eraill ar gyfer yr Archwilydd Cyffredinol, sydd hefyd yn gweithredu fel Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu’r Bwrdd. Mae’r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori’r Archwilydd Cyffredinol, o ran arfer ei swyddogaethau.