Methiannau mewn llywodraethu a rheolaeth ariannol mewn mwy o gynghorau cymuned

11 Rhag 2018 - 3:22yp

Mae adroddiadau er budd y cyhoedd a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn amlygu methiannau mewn tri chyngor cymuned i gyrraedd safonau gofynnol

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi adroddiadau er budd y cyhoedd yn amlygu methiannau mewn trefniadau llywodraethu ac annigonolrwydd mewn rheolaeth ariannol mewn tri chyngor cymuned – Cadfarch, Glantwymyn a Llanbryn-mair.

Roedd materion tebyg wedi'u hamlygu ym mhob un o'r cynghorau. Yn nodweddiadol, roedd y rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Methu â chyflwyno cyfrifon blynyddol i’w harchwilio yn unol â'r amserlen statudol
  • Tystiolaeth annigonol i gadarnhau p'un a roddwyd trefniadau priodol ar waith ai peidio ar gyfer ymarfer hawliau etholwyr
  • Methu â gweinyddu’r gyflogres a’r cynllun Talu Wrth Ennill (PAYE) yn gywir
  • Methu â pharatoi cyllideb yn gywir
  • Methu â chynnal system archwilio mewnol sy’n ddigonol ac effeithiol
  • Methu â chadw cofnodion cyfarfodydd ar y ffurf a ragnodir gan y gyfraith
  • Methu â chydymffurfio â dyletswyddau cyfreithiol i fabwysiadu cod ymddygiad ar gyfer aelodau ac i gynnal cofrestr o fuddiannau aelodau 
  • Nid yw pob dogfen angenrheidiol wedi'i chyhoeddi ar wefan y cyngor

Roedd pob un o'r tri chyngor hyn yn ddibynnol ar yr un unigolyn allweddol, a gafodd effaith ar y gwaith o gyflawni’r gofynion statudol ar gyfer y cynghorau hyn. Mae pob adroddiad yn rhoi sawl argymhelliad tebyg i'r cynghorau i'w helpu i wella llywodraethu, rheolaeth ariannol a phrosesau adrodd.

Dywedodd Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol:

“Mae'r materion a nodwyd yn yr adroddiadau hyn yn amlygu'r ddibyniaeth y mae cynghorau'n ei rhoi ar unigolion unigol. Mae angen i gynghorau fod yn llawn ymwybodol o'u dyletswyddau statudol a chymryd camau gweithredu priodol i sicrhau eu bod yn cael eu cynnal bob tro. Mae yma wersi pwysig y gall pob cyngor cymuned eu dysgu o'r methiannau a amlygwyd yn y tri chyngor hyn.

“Mae tua 735 o gynghorau tref a chymuned lleol yng Nghymru. Mae'r mwyafrif helaeth yn gweithio i safon uchel iawn. Mae'n siomedig, felly, y ceir nifer cymharol fach ond parhaus nad ydynt yn cyrraedd y safon a ddisgwylir gan gyrff a swyddogion cyhoeddus.

“Mae angen sicrhau'r cyhoedd fod gan gynghorau tref a chymuned drefniadau llywodraethu priodol yn eu lle i reoli gweithgarwch y cyngor yn ariannol ac yn weinyddol. Rwy'n parhau i ystyried adroddiadau er budd y cyhoedd ar nifer o gynghorau cymuned eraill am resymau tebyg i'r rhai a grybwyllwyd yma.”