Mae rhaglen Llywodraeth Cymru i foderneiddio ysgolion yn cael ei rheoli’n dda ar y cyfan

24 Mai 2017 - 2:16yp

Ond bydd angen iddi egluro’i disgwyliadau ar gyfer y cam nesaf a chanolbwyntio ar rai o’r prif risgiau sydd ynghlwm wrth y rhaglen os bydd newidiadau o ran cyllid a ffocws

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei rhaglen Addysg ac Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain yn 2009 a’i nod oedd adeiladu ac ailwampio ysgolion ar hyd a lled Cymru.  Dechreuodd Band A yn 2014.  Mae adroddiad a ryddhawyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn dod i’r casgliad fod Llywodraeth Cymru yn rheoli’r rhaglen yn dda ar y cyfan,  ond bydd angen iddi egluro rhai o’i disgwyliadau manwl a gwneud rhai newidiadau i ymateb i’r newidiadau arfaethedig yn y modd y caiff y rhaglen ei gweithredu a’i hariannu i sicrhau bod buddsoddiad y sector cyhoeddus yn creu mwy o werth am arian yn y dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru, cynghorau lleol a sefydliadau addysg bellach, at ei gilydd, yn gwario tua £1.5 biliwn ar Fand A, sef y cam cyntaf mewn cynllun hirdymor i wella cyflwr ysgolion Cymru a chreu cyfleusterau mwy addas. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ceisio sicrhau amrywiaeth o fuddion addysgol a chymunedol. Ymddengys bod y rhaglen, yn gyffredinol, ar y trywydd iawn o ran nifer y prosiectau y bwriadwyd eu rhoi ar waith. O’r 169 o brosiectau a gynlluniwyd ar gyfer ysgolion ac addysg bellach, hyd yma mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo132 o brosiectau ysgolion a 6 o brosiectau addysg bellach. O’r rhain, mae 59 wedi’u cwblhau.

Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn dod i’r casgliad fod y rhaglen yn gam pwysig ymlaen ers y dull blaenorol o weithredu, sef atgyweirio adeiladau ysgolion er mwyn medru parhau i’w defnyddio wedi i’w hoes ddisgwyliedig ddod i ben. Drwy sicrhau bod cyllid ar gael dros nifer o flynyddoedd, gall cynghorau fabwysiadu strategaethau hirdymor. O’r dechrau, gweithiodd Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol gyda’i gilydd yn dda ac, o ganlyniad i hyn, maent yn rhannu’r un ymdeimlad cryf o berchnogaeth tuag at y rhaglen. Rhoddodd Llywodraeth Cymru drefniadau cadarn ar waith i adolygu prosiectau ac mae wedi parhau i gryfhau’r  trefniadau hynny. Mae hefyd wedi mabwysiadu dull hyblyg iawn yn y modd y mae’n rheoli cyllid y rhaglen.  Hyd yma, prin yw’r prosiectau sydd wedi gwario mwy na’u cyllideb.

Mae’r adroddiad yn nodi rhai meysydd y mae angen eu cryfhau. Ar adegau, nid oedd Llywodraeth Cymru wedi nodi ei disgwyliadau’n ddigon clir ar ddechrau prosiect er enghraifft. Yn benodol, ni lwyddodd Llywodraeth Cymru i esbonio’r buddion ehangach roedd yn gobeithio y byddent yn deillio o’u buddsoddiad sylweddol. Mae pryderon hefyd nad yw rhai o’r adeiladau newydd yn cyrraedd y safonau amgylcheddol uchel disgwyliedig.

Er bod nifer yr ysgolion mewn cyflwr da wedi cynyddu, bydd angen ailwampio adeiladau neu godi adeiladau newydd i wella nifer sylweddol o ysgolion eraill, wedi i waith Band A ddod i ben yn 2019. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu newid rhywfaint ar y modd y buddsoddir yn y band nesaf (Band B) . Mae’n bwriadu cyflwyno rhyw fath o gyllid preifat - y Model Buddsoddi Cydfuddiannol - i ariannu’r rhaglen yn rhannol. Mae hefyd yn bwriadu sicrhau mwy o werth am arian drwy ddefnyddio elfennau mwy safonedig wrth godi adeiladau newydd a safoni costau. Er bod dadleuon cryf o blaid safoni rhagor i sicrhau gwerth am arian, bydd angen i Lywodraeth Cymru reoli’r risg y gall canoli trefniadau danseilio’r ethos cydweithredol sydd wedi bod yn nodweddiadol o’r rhaglen hyd yma.

Mae’r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion i sicrhau y bydd y rhaglen yn parhau ar y trywydd iawn gan gynnwys;

  • datblygu darlun dibynadwy o gyflwr ystâd addysg Cymru ar hyn o bryd gan ddangos pa mor addas yw’r cyfleusterau, i helpu i ddatblygu’r camau nesaf yn y rhaglen;
  • rhoi trefniadau caffael mwy cost effeithiol ar waith gan gynnwys trefniadau caffael rhanbarthol ac ymgynghori â phartneriaid ac arbenigwyr yn y sector diwydiannol i ddefnyddio rhagor o elfennau safonedig mewn prosiectau; a
  • sicrhau bod trefniadau llywodraethu’r rhaglen yn parhau i ateb y diben wrth gyflwyno newidiadau i’r modd y caiff y rhaglen ei rheoli a’i hariannu

Dywedodd Huw Vaughan-Thomas, yr Archwilydd Cyffredinol:

“Mae rhaglen Addysg ac Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain yn well o lawer na’r dull blaenorol o ddefnyddio buddsoddiad cyfalaf i wella’n hysgolion, a hynny’n bennaf gan ei bod yn mabwysiadu agwedd fwy hirdymor tuag at y buddsoddiad sydd ei angen.  Wrth i Lywodraeth Cymru gwblhau ei chynlluniau ar gyfer y cyfnod buddsoddi nesaf, o 2019 ymlaen, mae angen canolbwyntio’n awr ar rai agweddau allweddol fel yr angen i reoli’r risgiau sydd ynghlwm wrth gyflwyno trefniadau ariannu newydd a sicrhau bod y Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn parhau i gydweithio’n dda. Gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yn ofalus yr argymhellion rwy’n eu gwneud yn fy adroddiad er mwyn sicrhau ei bod yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed hyd yma i gyflawni’r amcanion uchelgeisiol y mae wedi’u gosod ar gyfer y rhaglen.”