Mae angen mwy o gymorth ar bobl sy'n wynebu rhwystrau iaith a chyfathrebu i'w helpu i gael mynediad i wasanaethau cyhoeddus

25 Ebr 2018 - 1:32yp

Mae angen i gyrff cyhoeddus weithredu gwasanaethau dehongli a chyfieithu er mwyn sicrhau mynediad cyfartal i bawb

Gall cyrff cyhoeddus wneud mwy i helpu pobl sy'n wynebu rhwystrau iaith a chyfathrebu i gael mynediad i'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Dyma gasgliad adroddiad a gyhoeddir heddiw.

Mae’r adroddiad ’Siarad fy iaith’ yn crynhoi deddfwriaeth a pholisi perthnasol, ac yn ystyried sut y mae cyrff cyhoeddus yn gwneud eu gwasanaethau'n hygyrch i bobl sy'n wynebu rhwystrau iaith a chyfathrebu. Mae’r adroddiad yn edrych yn benodol ar gynghorau a gwasanaethau iechyd. Mae'n canolbwyntio ar wasanaethau dehongli a chyfieithu i bobl sy'n fyddar ac yn defnyddio iaith arwyddion, a phobl nad ydynt yn siarad Cymraeg neu Saesneg fel eu prif iaith.

Mae cyrff cyhoeddus yn wahanol o ran pa mor dda maent yn deall anghenion iaith a chyfathrebu'r cymunedau maent yn eu gwasanaethu. Fodd bynnag, canfu'r adroddiad enghreifftiau lle mae cyrff cyhoeddus yn ceisio dod o hyd i ffyrdd newydd o weithio, i helpu i oresgyn rhwystrau iaith i bobl nad ydynt yn siarad Cymraeg neu Saesneg fel iaith gyntaf.

Sefydlwyd Gwasanaeth Cyfieithu Cymru (GCC) yn 2009. Mae'n darparu gwasanaeth pedair awr ar hugain y dydd, saith diwrnod yr wythnos sydd ar gael i unrhyw gorff cyhoeddus yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae 30 o sefydliadau yn bartneriaid yn GCC sy'n rhoi llais iddynt o ran sut mae'r gwasanaeth yn cael ei reoli. Yn ddiweddar mae GCC wedi gorfod mynd i'r afael â rhai materion llywodraethu a rheoli a phryderon am agweddau ar ei ddarpariaeth gwasanaeth. Mae Cyngor Caerdydd wedi cynnal GCC ers mis Gorffennaf 2017. Mae cyrff cyhoeddus hefyd yn defnyddio dehonglwyr a chyfieithwyr ar y pryd o gwmnïau preifat a sefydliadau'r trydydd sector. Mae rhai'n cyflogi dehonglwyr hefyd. Nid yw'n glir beth yw'r cyfanswm mae cyrff cyhoeddus yn ei wario ar wasanaethau dehongli a chyfieithu. Fodd bynnag, gwariodd cyrff cyhoeddus £2.2 miliwn drwy GCC yn 2016-17.

Mae’r adroddiad yn cyfeirio at nifer o heriau o ran darparu gwasanaethau dehongli a chyfieithu. Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi datblygu rhestr wirio o faterion i'w hystyried wrth gynllunio sut i ddiwallu anghenion pobl nad ydynt yn siarad Cymraeg neu Saesneg. Mae'r rhestr wirio yn cwmpasu pum maes ‘deall anghenion cyfathrebu'r boblogaeth leol’, ‘polisïau a gweithdrefnau’, ‘dod o hyd i wasanaethau dehongli a chyfieithu’, ‘hyfforddiant ar gyfer staff’ a ‘darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr gwasanaethau’.

Mae'r adroddiad yn argymell bod cyrff cyhoeddus yn adolygu sut y maent yn gwneud gwasanaethau'n hygyrch i bobl sy'n wynebu rhwystrau cyfathrebu neu iaith drwy ddefnyddio'r rhestr wirio. Mae'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried ehangu cwmpas safonau perthnasol sy'n berthnasol i'r GIG yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda chyrff cyhoeddus, grwpiau cynrychioliadol ac eraill i ystyried materion sy'n ymwneud â chyflenwi dehonglwyr a chyfieithwyr ar y pryd yng Nghymru a gweithdrefnau sicrhau ansawdd a diogelu.

Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol, Anthony Barrett heddiw:
“Mae angen i wasanaethau cyhoeddus sicrhau y gall pawb gael mynediad iddynt, beth bynnag yw eu hangen iaith neu gyfathrebu. Er bod rhywfaint o arfer arloesol ledled Cymru, mae'n amlwg y gall cyrff cyhoeddus wneud mwy i ystyried anghenion y rhai sy'n wynebu rhwystrau iaith a chyfathrebu ac ymateb i'r anghenion hyn. Gall y rhestr wirio a ddatblygwyd gennym helpu cyrff cyhoeddus i wneud hyn, ac mae'r astudiaethau achos a amlygwyd gennym yn rhoi enghreifftiau y gallwn ddysgu ohonynt.”

Darllenwch ein blog: grym geiriau [agorir mewn ffenest newydd]