Llywodraeth Cymru yn defnyddio deddf cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) i sicrhau cynllunio gwell o ran gwasanaethau a chyllid

6 Gorff 2017 - 4:44yp

Ond mae cryn ffordd i fynd eto er mwyn sylweddoli'r buddion yn llawn, gyda phedwar allan o'r saith bwrdd iechyd heb gyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf

Ers i Ddeddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) ddod i rym yn 2014, mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu'r gwariant arfaethedig ar iechyd, ond wedi parhau i ddibynnu ar gyllid ychwanegol i fynd i'r afael â phwysau a blaenoriaethau o fewn blwyddyn.

Mae'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru'n goruchwylio ac yn dal cyrff y GIG i gyfrif am ansawdd eu gwaith cynllunio yn gadarn ar y cyfan. Ceir arwyddion o fwy o ganolbwyntio ar y tymor hirach, fel y bwriadwyd drwy'r Ddeddf. Er hynny, ar ddiwedd 2016-17 methodd pedwar allan o'r saith bwrdd iechyd â chyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf. Dyma gasgliad adroddiad diweddaraf yr Archwilydd Cyffredinol ynghylch y modd y mae Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014 yn cael ei gweithredu.

Yn y cyfnod o dair blynedd ers i'r Ddeddf ddod i rym, mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu'r gwariant ar iechyd mewn termau real o 2.9% bob blwyddyn ar gyfartaledd, sef codiad o £6.2 biliwn yn 2013-14 i £6.7 biliwn yn 2016-17. Cafodd peth o'r arian ychwanegol hwn ei ddyrannu mewn ffordd fwriadol drwy'r gyllideb cyn cychwyn y flwyddyn ariannol.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi parhau i ddyrannu arian o fewn y flwyddyn. Mae'r dyraniad hwn o fewn blwyddyn yn cynnwys arian ar gyfer blaenoriaethau penodol, megis cyffuriau newydd, yn ogystal â chyllid ar gyfer gorwariant a ragwelir neu orwariant gwirioneddol cyrff y GIG. Bwriadwyd i'r arian ychwanegol, yn rhannol, alluogi cyrff y GIG i osgoi gorfod gwneud penderfyniadau ariannol tymor byr a allai effeithio ar ansawdd gofal.

Daw'r adroddiad hefyd i'r casgliad bod canllawiau cynllunio Llywodraeth Cymru yn glir yn gyffredinol. Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu proses dda ar gyfer adolygu ansawdd cynlluniau cyrff y GIG, ac mae wedi adolygu a chryfhau ei dull o gysylltu'r cynlluniau hyn â chynllunio prosiectau cyfalaf.

Mae'r adroddiad yn canfod bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn benderfynol o beidio â chymeradwyo dim ond cynlluniau y mae ganddi hyder ynddynt. Yn rhai achosion, mae hynny wedi golygu cymeradwyo cynlluniau ariannol nad oeddent wedi eu mantoli'n llawn ar ddechrau'r flwyddyn ariannol ond lle roedd gan Lywodraeth Cymru hyder yn record corff y GIG a'i gynlluniau lliniaru. 

Mae'r adroddiad yn gweld bod yna rai arwyddion o'r newid a fwriadwyd, sef meddwl a chynllunio tymor hwy, ar draws GIG Cymru. Er hynny, parhau i ganolbwyntio'n gryf ar y sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn ariannol y mae'r patrymau o wario a chynilo.

Er gwaethaf y Ddeddf, mae'r sefyllfa ariannol o fewn y flwyddyn o angenrheidrwydd yn dal yn ganolbwynt pwysig i waith monitro GIG Cymru. Nid oes yr un corff yn y GIG hyd yma wedi defnyddio'r hyblygrwydd ariannol dan y Ddeddf mewn ffordd gynlluniedig.

Ar ddiwedd mis Mawrth 2017, llwyddodd tri allan o'r saith Bwrdd Iechyd a phob un o dair ymddiriedolaeth y GIG i gyflawni eu dwy ddyletswydd statudol o adennill costau dros y tair blynedd flaenorol a chael cynllun tair blynedd a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru. Roedd y ffactorau a gyfrannodd at fethiant pedwar bwrdd iechyd i gyflawni eu dyletswyddau'n cynnwys:

  • cynlluniau cynilo gorobeithiol, a pheidio â nodi ffynonellau arbedion digonol ynghyd â methiant i gyflawni'r arbedion a nodwyd;
  • cynlluniau clinigol a chynlluniau gwasanaeth ddim yn eu lle ar gyfer cyflawni’r newidiadau mewn gwasanaethau;
  • pwysau gweithlu, sydd wedi arwain at ddibynnu ar staff locwm costus a staff asiantaeth;
  • pryderon ynghylch perfformiad rhai gwasanaethau, sydd wedi golygu buddsoddiad ychwanegol; a
  • pryderon ynghylch y capasiti i gyflawni newidiadau strategol.

Mae'r adroddiad yn gwneud dau argymhelliad ynglŷn â gwaith Llywodraeth Cymru yn gosod arweiniad a monitro cynnydd a hefyd yn diweddaru'r fformiwla sy'n sail i’r modd y dyrennir cyllid i fyrddau iechyd. Yn ogystal, mae’n nodi dau faes blaenoriaeth lle mae'r Archwilydd Cyffredinol yn ystyried bod angen i Lywodraeth Cymru wneud cynnydd - mynd i'r afael â'r ddibyniaeth ar gyllid o fewn blwyddyn a gosod cyfeiriad cliriach o ran newid strategol, yn enwedig i wasanaethau rhanbarthol a chenedlaethol.

Meddai Huw Vaughan-Thomas, yr Archwilydd Cyffredinol, heddiw:

"Mae Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014 yn rhoi fframwaith i GIG Cymru ar gyfer cynllunio gwasanaethau a materion ariannol yn well dros y tymor canolig, yn gysylltiedig â'u cynlluniau strategol ehangach. Er bod yna arwyddion cadarnhaol o gynnydd ers cyflwyno'r Ddeddf, mae llawer ar ôl i'w wneud. Nid oes gan rai o fyrddau iechyd mwyaf Cymru gynlluniau wedi eu cymeradwyo ac nid ydynt wedi cyflawni eu dyletswydd i adennill eu costau dros dair blynedd. Mae'r cyrff hyn yn awr yn wynebu her i gyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf yn y blynyddoedd sydd i ddod.”