Gwariant ar staff asiantaeth wedi “cynyddu’n sylweddol” dros y blynyddoedd diwethaf

22 Ion 2019 - 12:08yb

Mae angen data cyson y gellir eu cymharu, yn ogystal ag arweinyddiaeth gref, i reoli'r gwariant ar staff dros dro, yn ôl yr Archwilydd Cyffredinol

Mae'r gwariant ar staff asiantaeth wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf – cynnydd o 171% dros saith mlynedd – yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae tua 80% o’r gwariant ar staff asiantaeth hyd yma yn 2018-19 yn cyflenwi ar gyfer swyddi gwag ac mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn ceisio lleihau’r galw am staff asiantaeth a’r pris a delir amdanynt.

Yn gyffredinol, mae staff asiantaeth yn y GIG yn costio mwy na gweithwyr cyfatebol ar gontractau sylweddol. Mae'r rhai a ddarperir gan asiantaethau yn dueddol o fod yn ffynhonnell ddrutach o staff dros dro.

Mae ar GIG Cymru angen data mwy cyson y gellir eu cymharu er mwyn iddo ddeall yr hyn sydd wrth wraidd y gwariant ar staff asiantaeth. Mae angen arweinyddiaeth gref a threfniadau rheoli newid cadarn hefyd i sicrhau bod modd rhoi penderfyniadau anodd ar waith mewn ffordd gyson ledled pop corff GIG yng Nghymru.

Adroddiad ‘ffeithiau yn unig’ a gyhoeddir gan yr Archwilydd Cyffredinol heddiw. Mae’n cynnwys gwybodaeth bwysig am y modd y mae cyrff GIG Cymru’n defnyddio staff asiantaeth. Ar y cyd â’r offeryn data a grëwyd gan staff Swyddfa Archwilio Cymru, mae’n gyfle i'r darllenwyr ddod i ddeall y sefyllfa’n well a gwneud eu dadansoddiadau eu hunain o’r gwariant ar staff asiantaeth. Mae’r adroddiad hefyd yn hybu ffyrdd o wella'r sefyllfa drwy rannu gwybodaeth am fentrau cyfredol i ffrwyno’r gwariant ar staff asiantaeth, ac mae’n tynnu sylw at yr heriau perthnasol y mae’r GIG yn eu hwynebu.

Cyrhaeddodd gwariant GIG Cymru ar staff asiantaeth uchafbwynt o £164.4 miliwn yn 2016-17. Ar gyfartaledd, mae cyrff iechyd Cymru wedi gwario bron i hanner eu gwariant ar staff asiantaeth ar staff meddygol a deintyddol ers 2014-15 a thraean arall ar nyrsys a bydwragedd. Ymhlith y ffactorau sydd wedi cyfrannu at y cynnydd mewn gwariant mae’r cyfraddau fesul awr cynyddol a godir gan asiantaethau, y cynnydd yn y galw am wasanaethau, a’r anawsterau o ran recriwtio a chadw staff. Ond ni cheir dadansoddiad cenedlaethol o’r graddau y mae pob un o’r ffactorau hyn wedi cyfrannu at y cynnydd yn y gwariant ar staff asiantaeth.

Mae gan bob corff iechyd ddata am nifer y staff asiantaeth y maent yn eu defnyddio, a pham. Ond nid oes dadansoddiad ar gael o hyd ar gyfer Cymru gyfan sy’n dangos faint o feddygon, nyrsys a staff eraill sy’n cael eu cyflogi drwy asiantaethau, eu meysydd arbenigol, a’u graddau. Mae’r GIG yn gwneud trefniadau ar lefel Cymru gyfan i ddod i ddeall yn well sut y mae’n defnyddio nyrsys asiantaeth a staff asiantaeth meddygol, sef dau o’r meysydd gwariant mwyaf.

Mae’r GIG hefyd yn ceisio lleihau’r galw am staff asiantaeth drwy greu delwedd fwy deniadol o GIG Cymru fel cyflogwr, drwy geisio recriwtio a chadw mwy o staff, drwy leihau absenoldeb oherwydd salwch, a thrwy wella’r broses o reoli rotâu a chynllunio swyddi. Mae’r galw am staff asiantaeth wedi hybu cystadleuaeth rhwng cyrff iechyd a chynyddu cyfraddau tâl staff asiantaeth. Mae cyrff iechyd bellach yn cydweithio drwy weithgorau Cymru gyfan i geisio rheoli’r costau hyn.

Mae adroddiad heddiw’n pennu dwy her allweddol i wella’r broses o reoli’r gwariant ar staff asiantaeth. Yn gyntaf, mae ar GIG Cymru angen data cyson y gellir eu cymharu ar lefel Cymru gyfan i dracio nifer, natur a chost y staff asiantaeth a ddefnyddir, ac effaith newidiadau i’r gwariant ar staff asiantaeth ar gostau staffio dros dro eraill, fel taliadau goramser a banciau staff mewnol.

Yn ail, bydd angen sicrhau bod gan brosiectau i reoli’r gwariant ar staff asiantaeth a threfniadau staffio dros dro eraill arweinyddiaeth gref a chapasiti i roi newid ar waith yn ddi-oed ac i ymdrin â phenderfyniadau anodd mewn ffordd gyson.

Heddiw, dywedodd Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol: “Mae’r adroddiad hwn yn llawn ystadegau defnyddiol sy’n darlunio’r sefyllfa o ran gwariant GIG Cymru ar staff asiantaeth ar hyn o bryd. Rwy’n gobeithio y bydd ystod eang o unigolion a gweithwyr proffesiynol yng Nghymru’n defnyddio’r adroddiad hwn, a’r offeryn data a grëwyd gennym, i helpu GIG Cymru i barhau i leihau ac i reoli’r costau hyn, a hynny ar adeg pan fo’n wynebu pwysau ariannol sylweddol.”

Diwedd

Nodiadau i olygyddion:

  • Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu ffeithiau pwysig ynghylch y modd y mae cyrff y GIG yng Nghymru yn defnyddio staff asiantaeth, gan gynnwys y gwariant, dadansoddiadau'r cyrff iechyd o’r rhesymau dros wneud hynny, y mentrau cenedlaethol i reoli’r math hwn o wariant, a’r heriau sydd ar y gorwel.
  • Mae GIG Cymru'n cyflogi bron i 80,000 o staff cyfwerth ag amser llawn (ac eithrio Ymarferwyr Cyffredinol a’r rheini a gyflogir yn uniongyrchol gan Bractisau Cyffredinol), a gwariodd £3.62 biliwn ar gyflogau yn 2017-18.
  • Ond mae angen staff ychwanegol ar GIG Cymru hefyd i ategu’r gweithlu amser llawn pan fydd swyddi’n wag, pan fydd staff yn absennol oherwydd salwch, gwyliau neu reswm arall, neu pan fydd y galw am wasanaethau’n cynyddu, er enghraifft yn ystod pwysau'r gaeaf. Gellir llenwi’r swyddi hyn drwy wneud taliadau goramser, drwy ddefnyddio banciau staff mewnol, drwy ddefnyddio asiantaethau’r sector preifat, neu drwy ddefnyddio unigolion sy’n ymrwymo i gontractau uniongyrchol â’r cyrff iechyd ar delerau ad hoc.
  • Mae’r staff a ddarperir gan asiantaethau'n dueddol o fod yn fwy costus na staff dros dro eraill. Gyda’i gilydd, gwariodd cyrff y GIG yng Nghymru dros £160 miliwn ar staff asiantaeth yn 2016-17. Mae’r ffigur hwn dros bedair gwaith yn fwy na ffigur cyfatebol 2012-13. Mae’r gwariant ar staff asiantaeth yng ngwledydd eraill y DU wedi cynyddu’n sylweddol hefyd.
  • Archwilydd allanol statudol annibynnol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru yw’r Archwilydd Cyffredinol Mae’n gyfrifol am gynnal archwiliad blynyddol o’r rhan fwyaf o’r arian cyhoeddus sy’n cael ei wario yng Nghymru, gan gynnwys y £15 biliwn y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn pleidleisio arno bob blwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru’n trosglwyddo rhannau o’r arian hwn i GIG Cymru (dros £7 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).
  • Mae annibyniaeth archwilio’r Archwilydd Cyffredinol yn hollbwysig. Fe’i penodir gan y Frenhines, ac nid yw’r Cynulliad Cenedlaethol na’r llywodraeth yn cyfarwyddo nac yn rheoli ei waith.
  • Corff corfforaethol a chanddo Fwrdd o naw aelod statudol yw Swyddfa Archwilio Cymru. Mae’n cyflogi staff ac yn darparu adnoddau i’r Archwilydd Cyffredinol, ac mae yntau hefyd yn gweithredu fel Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu’r Bwrdd. Mae’r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori’r Archwilydd Cyffredinol o ran y modd y mae’n arfer ei swyddogaethau.