Cynlluniau i gryfhau gofal sylfaenol ddim yn digwydd yn ddigon cyflym

21 Hyd 2019 - 11:20yb

Er gwaethaf buddsoddiad sylweddol a llawer o gynlluniau i drawsnewid gofal sylfaenol dros y blynyddoedd, nid yw newid wedi digwydd mor gyflym nac mor eang ag a fwriadwyd.

Er bod y GIG a Llywodraeth Cymru yn cymryd ystod o gamau i gryfhau gofal sylfaenol, mae angen i newid ddigwydd yn gyflymach ac ar raddfa fwy i fynd i’r afael â heriau hirsefydlog a sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn addas ar gyfer y dyfodol. Dyna’r neges allweddol mewn adroddiad, a gyhoeddir heddiw, gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Mae pwysau cynyddol ar y model gofal sylfaenol traddodiadol o hyd ac mae cleifion yn profi anawsterau parhaus wrth geisio cael apwyntiadau gyda meddyg teulu. Fe wnaeth cyfran y bobl a oedd yn ei chael yn anodd cael apwyntiad ostwng ychydig o 42% yn 2017-18 i 40% yn 2018-19, er bod y lefel hon yn dal i fod yn achos pryder ac yn amrywio ledled Cymru.

Dros y blynyddoedd diwethaf bu nifer o ddatblygiadau sydd wedi ceisio cryfhau’r modd y caiff gwasanaethau gofal sylfaenol eu cynllunio a’u darparu yng Nghymru. Yn fwyaf nodedig mae hyn wedi cynnwys sefydlu clystyrau gofal sylfaenol (gweler y nodiadau i olygyddion) a chyflwyno’r Gronfa Genedlaethol Gofal Sylfaenol a ddyrannodd £120m i fyrddau iechyd rhwng 2015-16 a 2017-18 i roi cymorth i ddatblygu gofal sylfaenol trwy amryw fentrau gan gynnwys y rhaglen pennu cyfeiriad genedlaethol (gweler y nodiadau i olygyddion).

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Model Gofal Sylfaenol newydd ar gyfer Cymru wedi esblygu, ac yn hybu datblygiad timau gofal sylfaenol aml-broffesiwn i leihau’r pwysau cyfredol ar feddygon teulu ac i wella mynediad a gwasanaethau ar gyfer cleifion. Fodd bynnag, bratiog fu’r cynnydd o ran rhoi’r model ar waith ac mae angen i newid ddigwydd yn gyflymach.

Mae’r model gofal sylfaenol newydd yn dechrau cael ei roi ar waith ond mae angen ymgysylltu gwell â’r cyhoedd i sicrhau eu bod yn deall y ffyrdd newydd o weithio. Hefyd, mae angen cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am y model a chefnogaeth iddo ymhlith staff y GIG, a all dywys cleifion at y gwasanaeth cywir a gweithredu fel hyrwyddwyr y ffyrdd newydd o weithio.

Mae’r adroddiad yn nodi argymhellion ar lefel genedlaethol i Lywodraeth Cymru a’r Bwrdd Gofal Sylfaenol Cenedlaethol, gan gynnwys:

  • Llywio’r broses o roi’r Model Gofal Sylfaenol ar gyfer Cymru ar waith a datblygu, casglu a chyhoeddi data rheolaidd i helpu i bwyso a mesur y cynnydd;
  • Ymgynghori â byrddau iechyd, i gytuno ar ddull o egluro a safoni’r ffordd y mae gwariant ar ofal sylfaenol yn cael ei gofnodi a’r ffordd yr adroddir arno; a hefyd
  • Cynnwys y cyhoedd yn fwy mewn newidiadau i ofal sylfaenol.

Meddai’r Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton:

“Mae gan wasanaethau gofal sylfaenol rôl hanfodol yn y system iechyd a gofal yng Nghymru. Er y bu ystod o gynlluniau i ddatblygu gofal sylfaenol, cyfyngedig fu’r cynnydd o ran rhoi’r cynlluniau hyn ar waith ac nid yw gofal sylfaenol wastad wedi cael proffil digon uchel o fewn y GIG yng Nghymru.

Rhaid i hyn newid, ac mae angen i’r model newydd a ragwelir ar gyfer gofal sylfaenol gael ei gyflwyno’n gyflymach ac ar raddfa fwy, a chan ymgysylltu’n briodol â staff a defnyddwyr gwasanaethau. Bydd methu â gwneud hynny’n creu heriau gwirioneddol i gynaliadwyedd y gwasanaethau hanfodol hyn.”

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion:

  • Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y prif faterion a meysydd cynnydd a ganfuwyd mewn gwasanaethau gofal sylfaenol yng Nghymru ar lefel genedlaethol.
  • Mae gofal sylfaenol yn cwmpasu ystod eang o wasanaethau, a ddarperir gan feddygon teulu, fferyllwyr, deintyddion, optometryddion a gweithwyr proffesiynol o’r sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a gwirfoddol.
  • Clystyrau gofal sylfaenol – grwpiau o feddygfeydd teulu cyfagos, gwasanaethau gofal sylfaenol eraill a sefydliadau partner sy’n cydweithio i sicrhau bod gofal mewn ardal ddaearyddol ddiffiniedig yn cael ei gydgysylltu’n well yw clystyrau. Mae 64 o glystyrau yng Nghymru, sy’n nodweddiadol yn gwasanaethu poblogaeth sydd rhwng 25,000 a 100,000 o bobl.
  • Y Rhaglen Pennu Cyfeiriad – nod y rhaglen yw ysgogi arloesi a hybu’r broses o ailddylunio gofal sylfaenol. Dechreuodd â 24 o brosiectau, a oedd yn cyflogi gwahanol ymarferwyr, gan gynnwys fferyllwyr a ffisiotherapyddion, i weithio mewn meddygfeydd teulu i roi cynnig ar ffyrdd newydd, arloesol o ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol.
  • Yn ystod 2018, fe wnaethom adolygu gwasanaethau gofal sylfaenol ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru gan ganolbwyntio ar gynllunio strategol, buddsoddi, y gweithlu, trosolwg ac arweinyddiaeth, a pherfformiad.
  • Yn gynnar yn 2019, fe gynhaliom ni gyfweliadau ac adolygiadau o ddogfennau i asesu’r arweinyddiaeth a threfniadau llywodraethu cenedlaethol ar gyfer gwella gofal sylfaenol.
  • Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol annibynnol y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae’n gyfrifol am fynd ati’n flynyddol i archwilio’r mwyafrif o’r arian cyhoeddus a gaiff ei wario yng Nghymru, gan gynnwys y £15 biliwn o arian y pleidleisir arno’n flynyddol gan y Cynulliad Cenedlaethol. Caiff elfennau o’r cyllid hwn eu trosglwyddo gan Lywodraeth Cymru i’r GIG yng Nghymru (dros £7 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).
  • Mae annibyniaeth archwilio’r Archwilydd Cyffredinol o’r pwys mwyaf. Fe’i penodir gan y Frenhines, ac nid yw ei waith archwilio’n cael ei gyfarwyddo na’i reoli gan y Cynulliad Cenedlaethol na’r Llywodraeth. 
  • Corff corfforaethol sy’n cynnwys Bwrdd statudol ac iddo naw aelod yw Swyddfa Archwilio Cymru sy’n cyflogi staff ac yn darparu adnoddau eraill ar gyfer yr Archwilydd Cyffredinol, sydd hefyd yn gweithredu fel Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu’r Bwrdd. Mae’r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori’r Archwilydd Cyffredinol, o ran arfer ei swyddogaethau.