Cyllid Cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer Prosiect Cylchffordd Cymru

26 Ebr 2017 - 3:01yp

‘Diffygion sylweddol o ran y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi rheoli’r risgiau i £9 miliwn o arian y trethdalwyr’, medd yr Archwilydd Cyffredinol 

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £9.3 miliwn i gefnogi’r camau i ddatblygu cylchffordd rasio moduron yng Nglynebwy, ac mae wedi cytuno ar £16 miliwn o gyllid ad-daladwy pellach. Ond, yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, ceir diffygion sylweddol o ran y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi rheoli’r risgiau perthnasol i arian y trethdalwyr.

Hyd yma, mae’r cyllid cychwynnol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi prosiect Cylchffordd Cymru yn cynnwys:

  • grant o £2 filiwn a ddarparwyd i Gwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd ym mis Hydref 2012 i gynorthwyo prosiect Cylchffordd Cymru i dalu’r costau sy’n gysylltiedig â chynllunio a datblygu’r safle;
  • cytundeb gwarantu benthyciad banc a barodd i Lywodraeth Cymru dalu dros £7.3 miliwn i fanc Cwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd ym mis Ebrill 2016. Mae gan Lywodraeth Cymru hawl i fynnu bod Cwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd yn ad-dalu’r swm hwn, ynghyd â llog;
  • cytundeb i ddarparu £16 miliwn o Gyllid Busnes Ad-daladwy i Gwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd os bydd prosiect Cylchffordd Cymru’n bodloni amodau penodol cyn diwedd mis Mawrth 2018. Fodd bynnag, nid yw’r cynnig cyllido diweddaraf a gyflwynwyd gan brosiect Cylchffordd Cymru i Lywodraeth Cymru’n cynnwys cynnig i ddefnyddio unrhyw ran o’r cyllid hwn.

Mae’r adroddiad yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi mynd ati’n briodol i gomisiynu cyngor helaeth a’i bod wedi ystyried amryw o fanteision a risgiau cyn penderfynu darparu’r cymorth cychwynnol hwn i brosiect Cylchffordd Cymru. Fodd bynnag, mae’r ffordd y bu iddi arfarnu’r wybodaeth a oedd yn sail i’w phenderfyniadau cyllido hyd yma yn wallus. Gan mwyaf, bu i Lywodraeth Cymru ddilyn gweithdrefnau sefydledig i gefnogi penderfyniadau gan Weinidogion, ond cafodd rhywfaint o’r wybodaeth allweddol ei hepgor o’r papurau a gyflwynwyd iddynt. Yn ogystal, mae rhai o’r bylchau yn yr wybodaeth wedi creu risgiau ychwanegol wrth i swm y cyllid cyhoeddus a neilltuwyd gynyddu.

Mae’r adroddiad yn dod i’r casgliad na wnaeth Llywodraeth Cymru ddigon i reoli cronfeydd cyhoeddus yn briodol ar ôl iddi benderfynu darparu cymorth ariannol cychwynnol i brosiect Cylchffordd Cymru. Nid oedd y trefniadau ariannu’n ddigon cadarn i ddiogelu arian cyhoeddus; nid oedd yr amodau a bennwyd ar gyfer gwahanol ffrydiau ariannu yn gyson a, lle’r oedd amodau wedi’u pennu, nid oeddent bob amser yn cael eu gorfodi.

Roedd yr hyn yr oedd Llywodraeth Cymru’n ei wybod am y cwmnïau a oedd yn rhan o brosiect Cylchffordd Cymru’n gyfyngedig. Bu i Lywodraeth Cymru ganiatáu i Gwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd wneud taliadau i gwmnïau cysylltiedig, gan gynnwys bron i £1 filiwn i Aventa Capital Partners Ltd, a hynny heb ddigon o dystiolaeth bod y gwasanaethau a ddarparwyd i Gwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd yn rhoi gwerth am arian. Nid oedd trefniadau Llywodraeth Cymru i awdurdodi taliadau i Gwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd ei hun yn ddigon cadarn ychwaith.

Mae’r adroddiad yn dod i’r casgliad bod y grant o £2 filiwn a ddyfarnwyd i Gwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd yn cynnwys £300,000 i gaffael y cwmni peirianneg beiciau modur, FTR Moto Ltd, ac nad oedd hyn yn gyson â dibenion y cynllun grant. Ni fu modd i Lywodraeth Cymru egluro mewn ffordd sy’n bodloni’r Archwilydd Cyffredinol pam y bu iddi ganiatáu i Gwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd ddefnyddio grant datblygu eiddo i gaffael cwmni peirianneg beiciau modur yn Swydd Buckingham. Cafodd yr arian a drosglwyddwyd i FTR ei ddileu’n ddiweddarach yng nghyfrifon Cwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd ac yna, ym mis Hydref 2016, aeth FTR i ddwylo’r gweinyddwyr.

Nid yw’r adroddiad yn asesu rhinweddau darparu rhagor o gymorth a ariennir gan y pwrs cyhoeddus i Gwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd nac yn adolygu hyfywedd yr achosion busnes o ran adeiladu a gweithredu’r gylchffordd rasio. Nid yw ychwaith yn profi’r addewidion a wnaed gan y datblygwyr o ran creu swyddi a’r gweithgarwch economaidd a fydd yn deillio o gynllun Cylchffordd Cymru yn ei gyfanrwydd, cynllun y mae’r gylchffordd rasio’n rhan ohono.

Nid yw’r adroddiad yn craffu’n uniongyrchol ar ymddygiad unigolion na chyrff sy’n gysylltiedig â’r prosiect. Fodd bynnag, yn ystod y gwaith archwilio, ac yn sgil pryderon a godwyd gyda’r Archwilydd Cyffredinol gan Aelod Seneddol, craffwyd ar daliadau penodol i bennu a gafodd arian cyhoeddus ei ddefnyddio ar eu cyfer. Cadarnhawyd na chafodd arian cyhoeddus ei ddefnyddio ar gyfer y taliadau hyn.

Mae’r adroddiad a gyhoeddir heddiw’n gwneud pum argymhelliad i Lywodraeth Cymru er mwyn gwella, gan gynnwys:

  • sicrhau bod papurau a gyflwynir i Weinidogion er mwyn iddynt gymeradwyo penderfyniadau’n cynnwys yr holl wybodaeth sy’n berthnasol i unrhyw wariant arfaethedig a all fod yn newydd, yn ddadleuol, neu y gall fod iddo sgil-effeithiau; a
  • gofyn i gwmnïau sy’n gwneud cais i gael cymorth ariannol a fydd unrhyw drafodion sy’n defnyddio arian cyhoeddus yn cael eu gwneud drwy gwmnïau cysylltiedig, ac yna cynnal asesiad diwydrwydd dyladwy cadarn os bwriedir gwneud hyn.

Heddiw, dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas:

“Gall defnyddio arian cyhoeddus i gefnogi prosiectau seilwaith preifat yng Nghymru helpu i roi hwb i waith adfywio a datblygu economaidd. O wneud hyn, rhaid rheoli cyllid cyhoeddus mewn ffordd gadarn, gan arddel safonau priodol o ran craffu, gwyliadwriaeth a throsolwg.

“Yn achos Cylchffordd Cymru, mae’n anffodus ein bod wedi cael hyd i ddiffygion sylweddol, ac felly mae angen i Lywodraeth Cymru ddysgu o’r adroddiad, yn enwedig os bydd yn penderfynu darparu unrhyw gymorth pellach er mwyn i’r prosiect fynd rhagddo.”

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion:

  • Menter uchelgeisiol i adeiladu cylchffordd rasio ceir a beiciau modur ar rostir gerllaw Glynebwy ym Mlaenau Gwent yw Cylchffordd Cymru. Bwriedir i’r gylchffordd rasio fod o safon ddigon uchel ar gyfer amryw o gampau moduro, gan gynnwys rasys pencampwriaeth beiciau modur y byd, ond ni fydd yn cael ei hadeiladu i fodloni gofynion rasio ceir Fformiwla Un.
  • Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’r prif faterion sy’n codi o’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi rheoli’r pecyn cymorth ariannol cychwynnol a ddarparwyd ganddi i brosiect Cylchffordd Cymru. Yn ein hadolygiad archwilio, rydym wedi canolbwyntio ar ba mor dda y mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniadau i ddarparu cymorth ariannol cychwynnol; rheoli risgiau drwy roi amodau ar waith; a’i sicrhau ei hun fod yr arian a ddarparwyd ganddi’n cael ei ddefnyddio yn ôl y bwriad.
  • Er nad yw’r Archwilydd Cyffredinol yn archwilydd allanol ar gyfer Cwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd na’r amryfal gwmnïau sy’n gysylltiedig ag ef, mae ganddo bwerau statudol i ddilyn trywydd y bunt gyhoeddus ac i asesu cydymffurfiaeth â thelerau ac amodau cyllido Llywodraeth Cymru.
  • Yr Archwilydd Cyffredinol yw’r archwilydd allanol statudol annibynnol ar gyfer y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru. Mae’n gyfrifol am gynnal archwiliad blynyddol o’r rhan fwyaf o’r arian cyhoeddus sy’n cael ei wario yng Nghymru, gan gynnwys y £15 biliwn y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn pleidleisio arno bob blwyddyn. Caiff elfennau o’r cyllid hwn eu trosglwyddo gan Lywodraeth Cymru i’r GIG yng Nghymru (dros £5 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).
  • Mae annibyniaeth archwilio’r Archwilydd Cyffredinol o’r pwys mwyaf. Fe’i penodir gan y Frenhines, ac nid yw’r Cynulliad Cenedlaethol na’r llywodraeth yn cyfarwyddo nac yn rheoli ei waith archwilio.
  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru’n gorff corfforaethol sy’n cynnwys Bwrdd statudol â naw aelod sy’n cyflogi staff ac yn darparu adnoddau eraill i’r Archwilydd Cyffredinol. Mae yntau hefyd yn gweithredu fel Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu’r Bwrdd. Mae’r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori’r Archwilydd Cyffredinol o ran y modd y mae’n arfer ei swyddogaethau.