Rheoli ariannol a llywodraethu mewn cynghorau cymuned

27 Chwef 2017 -
6:30pm - 8:00pm
The Good Practice Exchange/ Y Gyfnewidfa Arfer Da

Yn ddiweddar fe wnaethom gyhoeddi adroddiad ar ‘Reoli Ariannol a Llywodraethu mewn Cynghorau Cymuned’. 

Canfu'r adroddiad fod gan gynghorau cymuned yng Nghymru le i wella o hyd o ran datblygu a gwella rheoli ariannol a llywodraethu yn arbennig mewn perthynas ag ansawdd cyflwyno adroddiadau ariannol, rheoli ariannol a threfniadau archwilio mewnol.

Mae cynghorau cymuned Cymru yn rheoli symiau sylweddol o arian ac yn dal cronfeydd wrth gefn ac asedau o werth sylweddol, sy'n debygol o gynyddu yn y dyfodol. Mae rhai o'r materion a nodwyd yn yr adroddiad yn cynnwys y canlynol:

  • Mae angen i gynghorau cymuned wella eu hamseroldeb o ran paratoi eu cyfrifon blynyddol ac ansawdd y ffurflenni blynyddol a gyflwynir i'w harchwilio
  • Mae angen i'r sector cyfan wella ei drefniadau ar gyfer pennu cyllidebau.
  • Mae angen i gynghorau cymuned ddangos bod ganddynt system archwilio mewnol ddigonol ac effeithiol ar waith, a'u bod yn cael gwerth llawn o'r gwasanaeth hwnnw.

Nododd yr archwilwyr nifer o faterion sy'n codi dro ar ôl tro y gallai cynghorau ledled Cymru ddysgu oddi wrthynt. O ganlyniad i hyn, byddwn yn cynnal gweminar i rannu enghreifftiau o arfer a dysgu da, gan ganolbwyntio'n benodol ar Gyllidebu ac Archwiliadau Mewnol. Bydd y weminar yn dwyn ynghyd yr arferion diweddaraf o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Pwy ddylai fynychu’r gweminar

Mae'r gweminar hon wedi ei hanelu at swyddogion (e.e. Clercod) ac aelodau cynghorau tref a chymuned yng Nghymru.

Lle a phryd 

6:30pm
Nos Llun 27 Chwefror 2017

Mae aelodau'r panel yn cynnwys:

  • Anthony Barrett, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol, Swyddfa Archwilio Cymru
  • Paul Egan, Un Llais Cymru
  • Mark Gallbraith, Cymdeithas Clercod Cynghorau Lleol

I gael mwy o wybodaeth am webinarau, ewch i'n canllaw cryno.

Cofrestru

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach a hoffech siarad ag aelod o'r Tîm Arfer Da, e-bostiwch arfer.da@archwilio.cymru neu ffoniwch Bethan Smith ar 07891 050 075.