Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno’r materion allweddol o ran sut y mae Llywodraeth Cymru wedi rheoli ei phecyn cymorth ariannol cychwynnol i’r prosiect Cylchffordd Cymru.
Mae'r adroddiad yn casglu bod Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £9.3 miliwn hyd yma i gefnogi datblygiad cychwynnol prosiect uchelgeisiol Cylchffordd Cymru, ond mae diffygion sylweddol o ran sut y mae Llywodraeth Cymru wedi rheoli’r risg gysylltiedig i arian trethdalwyr.