Gwella Busnes

Mae gwella busnes yn canolbwyntio ar gamau gweithredu ymarferol er mwyn gwella gwasanaethau cyhoeddus. Drwy wneud y peth iawn, mae cyfle hefyd i leihau costau. Mae llawer o wahanol ddulliau o wella busnes. Ymhlith y rhai y byddwn yn eu cwmpasu bydd dulliau meddylfryd systemau darbodus, atebolrwydd yn seiliedig ar ganlyniadau, rheoli rhaglenni a phrosiectau, a rheoli perfformiad. 

Mae rhai o'r dulliau hyn yn gydategol ac mae rhai ohonynt yn groes i'w gilydd. Nid bod yn benodol am ba ddull sydd orau yw ein nod yma. Gall yr hyn sy'n gweithio i un sefydliad fod yn aflwyddiannus i'r llall.

Mae’r canllaw hwn yn egluro rhai o'r dulliau gwahanol o ran gwella busnesau ac yn cynnwys adroddiad gan y Ganolfan Ymchwil Menter Ddarbodus.