Effeithlonrwydd

Mae Swyddfa Archwilio Cymru, Audit Scotland a Swyddfa Archwilio Gogledd Iwerddon wedi defnyddio ein gwybodaeth a'n profiad cyfun i lunio rhestr wirio arfer da ar wella effeithlonrwydd y sector cyhoeddus. Ein bwriad yw i'r rhestr wirio hyrwyddo gwelliant a hwyluso gwaith adolygu, adlewyrchu a hunanasesu manwl ymhlith cyrff a archwilir. Ein gobaith yw y bydd yn adnodd cyson sydd ar gael i'ch helpu i asesu eich dulliau eich hun o ymdrin ag effeithlonrwydd yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Mae'r canllaw hwn ar ffurf cyfres o gwestiynau am arfer da, a drefnwyd o dan y tair elfen allweddol:

  • cyllidebu a gwario ar sail blaenoriaeth;
  • gwella gwybodaeth am gynhyrchiant, effeithlonrwydd a chanlyniadau;
  • cydweithredu a chydweithio gwell

Argymhellwn y dylai'r rhai sy'n gyfrifol am arwain gwaith effeithlonrwydd a gwelliant ystyried asesu eu hunain yn erbyn pob cwestiwn a chofnodi'r canlyniadau.