Lleihau Costau

Ein nod sylfaenol yw helpu i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus i wneud dewisiadau cadarn a synhwyrol ynghylch torri costau gan leihau'r effaith ar bobl gymaint â phosibl, yn enwedig y bobl fwyaf bregus, a gwella gwasanaethau hefyd lle bo hynny'n bosibl.

Mae'r canllaw hwn wedi'i anelu at gynulleidfa amrywiol. Bwriadwn iddo helpu'r bobl sy'n gyfrifol am reoli canlyniadau toriadau: arweinwyr gwleidyddol a rheolwr. Dymunwn fod y canllaw hwn yn helpu'r rheiny sy'n craffu ar y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud: gwleidyddion ar bwyllgorau, ac aelodau o fyrddau a phwyllgorau gwasanaethau cyhoeddus.

Hefyd, bwriadwn fod grwpiau lleol, dinasyddion a defnyddwyr gwasanaethau'n gallu defnyddio'r canllaw i ymhél â'r broses o gynllunio a chyflwyno ymateb effeithiol i doriadau yng nghyllideb y sector cyhoeddus, a chyfrannu at y broses.