Cyhoeddiadau

Mae’r adroddiadau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a fyddai o ddiddordeb i chi o bosib.

Mae modd i chi chwilio am adroddiad penodol drwy ddefnyddio’r teclyn chwilio. Gallwch roi gosodiadau chwilio i ddarganfod cyhoeddiad ar destun neu o fewn ardal ddaearyddol benodol.

Os ydych angen unrhyw un o’n cyhoeddiadau mewn ffurf ac/neu iaith wahanol cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

Ffôn: 029 2032 0500

E-bost: post@archwilio.cymru

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Adroddiadau hŷn

Galwch gael gafael ar adroddiad a gyhoeddwyd cyn 2010 drwy edrych ar hen fersiynau o’n gwefan Archif we'r DU [agorir mewn ffenest newydd]. Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol hefyd a byddwn yn hapus i roi copi electronig i chi.

Gweler Hefyd: Arfer Da

Darganfod dogfennau

9 Maw 2011 - 9:02yb

Mae'r Llythyr Archwilio Blynyddol interim hwn i Fwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf (y Bwrdd) yn ymwneud â'm harchwiliadau o chwe mis terfynol cyrff rhagflaenol y Bwrdd hyd at 30 Medi 2009. Nodwyd y gwaith y sonnir amdano yn y Llythyr yn y Strategaethau Archwilio y cytunwyd arnynt ar gyfer y sefydliadau canlynol: Ymddiriedolaeth GIG Cwm Taf, Bwrdd Iechyd Lleol Merthyr Tudful, Bwrdd Iechyd Lleol Rhondda Cynon Taf.

9 Maw 2011 - 9:02yb

Paratowyd y ddogfen hon at ddefnydd mewnol Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda fel rhan o'r gwaith a gyflawnir yn unol â swyddogaethau statudol, y Cod Ymarfer Archwilio a'r Datganiad o Gyfrifoldebau a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

8 Maw 2011 - 9:02yb

Mae'r Llythyr Archwilio Blynyddol interim hwn i Fwrdd Iechyd Lleol newydd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (y Bwrdd Iechyd) yn ymwneud â'm harchwiliadau terfynol o'i gyrff rhagflaenol ar gyfer y cyfnod o chwe mis hyd at 30 Medi 2009.

8 Maw 2011 - 9:02yb

Mae'r Llythyr Archwilio interim (Llythyr) hwn i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr (y Bwrdd Iechyd) yn ymwneud â'm harchwiliadau o'i gyrff rhagflaenol ar gyfer y cyfnod o chwe mis hyd at 30 Medi 2009.

8 Maw 2011 - 9:02yb

Mae'r Llythyr Archwilio Blynyddol hwn (y Llythyr) at Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan (y Bwrdd Iechyd) yn ymwneud â'm harchwiliadau ar gyfer y cyfnod chwe mis olaf hyd at 30 Medi 2009 cyrff rhagflaenol y Bwrdd Iechyd.

28 Chwef 2011 - 9:19yb

Mae'r Llythyr Archwilio Blynyddol (y Llythyr) hwn i aelodau Awdurdod Heddlu Gwent (yr Awdurdod) yn crynhoi'r casgliadau o'm harchwiliad ar gyfer 2009-10. Mae'r llythyr yn cyflwyno adroddiad i aelodau'r Awdurdod ynglŷn ag unrhyw faterion o bwys sy'n codi o'm harchwiliad, ynghyd â'm sylwadau ar faterion cyfredol eraill. Nodwyd y gwaith y cyflwynir adroddiad arno yn y Llythyr hwn yn y Strategaeth Amlinellol y cytunwyd arni ar gyfer 2009-10. Anfonwyd y llythyr hwn gan John Herniman ar ran yr Archwilydd Penodedig

28 Chwef 2011 - 9:19yb

Mae'r Llythyr Archwilio Blynyddol hwn i aelodau Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru (yr Awdurdod) yn crynhoi'r casgliadau o'm harchwiliad ar gyfer 2009-10. Mae'r llythyr yn cyflwyno adroddiad i aelodau'r Awdurdod ynglŷn ag unrhyw faterion o bwys sy'n codi o'm harchwiliad, ynghyd â'm sylwadau ar faterion cyfredol eraill.

1 Chwef 2011 - 12:00yb

Ceir tystiolaeth glir bod gwelliannau angenrheidiol mewn gwasanaethau mamolaeth yn cael eu gwneud, ond mae angen cynnal y momentwm ac mae angen rhagor o waith i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu yn unol â chynlluniau strategol cenedlaethol a lleol.

31 Ion 2011 - 8:59yb

Mae'r Adroddiad Gwella Blynyddol hwn yn cyfleu'r darlun hwnnw a phob blwyddyn byddwn yn llunio adroddiad i roi gwybod i chi faint o gynnydd y mae Awdurdod Tân ac Achub De Cymru (yr Awdurdod) wedi'i wneud. Nid ydym wedi ymdrin â phob gwasanaeth y mae'r Awdurdod yn ei ddarparu. Rydym wedi canolbwyntio ar nifer fach o bethau, yn arbennig y pethau hynny y mae'r Awdurdod wedi dweud yw ei flaenoriaethau o ran gwella. 

 

31 Ion 2011 - 8:59yb

Mae'r Adroddiad Gwella Blynyddol hwn yn cyfleu'r darlun hwnnw a phob blwyddyn byddwn yn llunio adroddiad i roi gwybod i chi am y cynnydd y mae Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru (yr Awdurdod) wedi'i wneud. Nid ydym wedi ymdrin â phob gwasanaeth y mae'r Awdurdod yn ei ddarparu. Rydym wedi canolbwyntio ar nifer fach o bethau, yn arbennig y pethau hynny y mae'r Awdurdod wedi dweud yw ei flaenoriaethau o ran gwella. 

 

Tudalennau